Richey Edwards

23. Richey Edwards

Perfformwyr (436 o bleidleisiau)

1967 –

Awdur dawnus geiriau caneuon y band Manic Street Preachers. Arweiniodd ei drafferthion seicolegol dwys at ei ddiflaniad noson cyn taith y band i"r UDA ym 1995.

Ystyrir Manic Street Preachers yn un o lwyddiannau mawr Prydain yn yr 1990au, ond mae"r hyn maent wedi cyflawni hyd yn oed yn fwy nodedig gan eu bod wedi goresgyn trasiedi bersonol.

Collodd Phillip Hall, rheolwr y band yn y blynyddoedd cynnar, ei frwydr yn erbyn canser ym 1993. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, diflannodd un o sylfaenwyr y grŵp o westy"r Embassy yn Llundain noson cyn y daith i America. Daethpwyd o hyd i"w gar yng ngorsaf gwasanaethau Aust, ar ochr ddwyreiniol Pont Hafren.

Yn angherddorol, ar ei gyffes ei hun, dechreuodd Edwards fel gyrrwr i"r band, yn eu cludo a"u hoffer i"w cyngherddau cyntaf ar draws de Cymru. Ymhen tipyn, ymunodd â"r band yn llawn amser. Drwy gydweithio â"r awdur arall, Nicky Wire, ffurfiwyd un o bartneriaethau cyfansoddi caneuon mwyaf cofiadwy y sîn roc yn yr 1990au cynnar.

Y tu ôl i"w natur addfwyn a thawel, roedd y penderfyniad ffanatig oedd yn nodweddu"r band wrth iddynt ddod yn fwy a mwy poblogaidd. Ar ôl un cyngerdd ym 1991, cerfiodd y geiriau "4 Real" ar ei fraich yn defnyddio llafn rasel, a hynny o flaen newyddiadurwr a ffotograffydd o"r New Musical Express yn ystod trafodaeth rhyngddynt yngl*#375;n â oedd sylwedd go iawn yn perthyn i rethreg y band.

Ystyrir trydydd albwm y band, The Holy Bible, yn un o weithiau gorau Edwards - gorchest ryfeddol o gofio bod ei gyflwr emosiynol a chorfforol bregus yn gwaethygu ar y pryd - cyfuniad ingol o hunan-niwedio, diota trwm ac anorecsia. Cafodd yr albwm ei rhyddhau yn Awst 94, yr un mis ag yr aeth Edwards i The Priory am driniaeth i"w anhwylderau.

Mae pob canfyddiad honedig o Edwards, a phob corff anesboniadwy sy"n cael ei dynnu o enau afon Hafren, yn mynnu penawdau breision papurau newydd Prydeinig. Hyd heddiw, mae"r enillion ei eiriau i"r caneuon yn aros heb eu cyffwrdd mewn cyfrif banc, ac mae"r Manic Street Preachers yn dal i"w enwi fel un ohonynt pan fyddant yn cyflwyno eu hunain yn ystod perfformiadau byw.

Eich sylwadau chi

Un o’r awduron geiriau gorau erioed.

Mewn cyfnod byr o amser rhoddodd obaith ac ysbrydoliaeth i nifer.

Am ei eiriau gwych i’r Manic Street Preachers.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru