Richard Wilson

92. Richard Wilson

Pobl Greadigol (56 o bleidleisiau)

1712 – 1782

Arlunydd dylanwadol a sefydlodd ysgol Brydeinig i dirlunwyr.

Er nad yw enw Richard Wilson mor adnabyddus â rhai o"r rheiny a"i dilynodd, mae ei gyfraniad at hanes tirluniaeth Prydeinig yn bwysig tu hwnt. Bu i Turner a Constable gydnabod ei ddylanwad arnynt.

Ganwyd Wilson yn Sir Drefaldwyn, yn fab i"r person lleol. Oherwydd ei fod yn gweld bod ganddo ddawn i dynnu lluniau a pheintio, trefnodd cyfaill i"r teulu, Syr George Wynne, i"r Richard ifanc fynd i Lundain i astudio dan Thomas Wright.

Cyn pen dim, roedd Wilson wedi gwneud enw iddo"i hun, gan ennill sawl comisiwn gwerthfawr i beintio portreadau o rai o enwogion y cyfnod. Yn eu plith, roedd Flora Macdonald oedd newydd gael ei rhyddhau o Dŵr Llundain ar ôl helpu "Bonnie Prince Charlie" i ffoi i ddiogelwch. Fe beintiodd hefyd y tywysogion brenhinol ifanc ar gais eu tiwtor, Esgob Norwich.

Tra bod y gwaith a gafodd ar y dechrau yn amlwg yn dda o safbwynt ei boced, tirluniau a gweithiau"r meistri, fel Nicolas Poussin a Claude Lorrain oedd gwir ddiddordeb Wilson. Ym 1749, symudodd Wilson i"r Eidal lle yr arhosodd am chwe blynedd yn datblygu ei arddull dirlunaidd ei hun.

Er bod beirniaid yn ystyried ei flynyddoedd nesaf fel rhai pwysicaf ei yrfa yn greadigol, nid oedd gwaith Wilson yn cael ei werthfawrogi ar raddfa eang gan ei gyfoeswyr. Roedd tirlunio yn cael ei gyfrif yn eilradd i beintio portreadau. Mae"n debyg i Wilson chwerwi, ac aeth i fyw mewn llety dinod yn Heol Tottenham Court.

Er hynny, fe ddenodd noddwyr defnyddiol, yn cynnwys y tirfeddiannwr cyfoethog, Syr Watkin Williams-Wynn. Ymhlith ei weithiau pwysicaf y mae golygfeydd Cymreig cofiadwy fel Yr Olygfa ger Wynnstay, Yr Wyddfa, Llyn Peris a Chastell Dolbadarn. Ar ôl etifeddu ystad fechan yn Llanferres yn Sir Ddinbych, treuliodd ei flynyddoedd olaf yng Ngogledd Cymru.

Eich sylwadau chi

Arlunydd Cymreig byd-enwog.

Arlunydd pwysicaf Cymru o bosibl.

Ef oedd “tad” arlunio tirluniau ym Mhrydain, dylanwad enfawr ar Turner a Constable.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru