Richard Burton

5. Richard Burton

Perfformwyr (1755 o bleidleisiau)

1925 – 1984

Actor mwyaf adnabyddus ei genhedlaeth y byddai ei enwogrwydd yn aml yn celu ei ddawn eang.

"Mae"n rhaid i ti benderfynu", meddai Laurence Olivier wrth y Richard Burton ifanc - "a wyt ti am fod yn actor neu"n enw cyfarwydd". "Y ddau", oedd ei ateb. Treuliodd Richard Burton weddill ei fywyd yn ceisio gwireddu"r addewid honno.

Richard Jenkins oedd y deuddegfed o dri ar ddeg o blant a aned i deulu tlawd ym Mhontrhydyfen, pentref glofaol bach i"r gogledd o Bort Talbot. Cymerodd yr enw Burton yn ddiweddarach oddi wrth athro dylanwadol oedd wedi ymroi i ddatblygu doniau Richard, ac a oedd wedi"i orfodi i adrodd llinellau gan Shakespeare yn nannedd gwynt croch Morgannwg.

Bu ymdrechion Phillip Burton o gymorth i Richard ennill ysgoloriaeth i Rydychen. Ac o"r fan honno fe yrrodd ei allu i actio yn syth i lwyfannau Llundain. Yn ei ffilm gyntaf, Last Days of Dolwyn, gan Emlyn Williams, chwaraeodd ran oedd yn addas iawn ar ei gyfer, sef bachgen o"r cymoedd oedd wedi llwyddo.

Aeth ei lais cyfoethog a"i bresenoldeb atyniadol ag ef i Hollywood ac at enwogrwydd byd-eang. Yn ogystal â serennu"n y ffilmiau anferth Beiblaidd a"r ffilmiau rhyfel oedd mor boblogaidd yn y 50au, ef hefyd oedd y gwir "Angry Young Man" gyda"i berfformiad hanesyddol yn Look Back in Anger gan John Osbourne.

Canolbwyntiwyd y sylw ar ei fywyd personol pan ddechreuodd gael perthynas ag Elizabeth Taylor ar set Cleopatra ym 1963. Dros y deuddeng mlynedd nesaf - gan briodi ddwywaith, ar ôl ysgaru am gyfnod byr yn yr 1970au cynnar - hwy oedd y pâr celeb enwocaf drwy"r byd.

Yn aml, denodd y saga Burton-Taylor a"r syrcas gyfryngol oedd yn eu dilyn i bobman, ynghyd â"i ddiota aruthrol, fwy o sylw na"i waith diweddarach. Er hynny, cafodd y ddawn yr oedd wedi ei bendithio â hi i raddau mor helaeth, ei harddangos mewn cynhyrchiadau fel Who"s Afraid of Virginia Wolf, Equus a"i ffilm olaf 1984.

Roedd yn ffrind ac yn edmygu gwaith Dylan Thomas a dychwelodd i Gymru i gynhyrchu ac i serennu yn Under Milk Wood ym 1972. Fel yn achos y bardd, ni ddylai ei ddelwedd fel codwr twrw fyth dynnu oddi wrth ei fawredd fel actor.

Eich sylwadau chi

Mae’n rhaid mae ef yw un o’r actorion gorau erioed! Petai o gwmpas heddiw, yn bendant byddai’n fygythiad i lot o’r actorion presennol. Roedd ei lais fel siocled toddedig – hyfryd. Mae aelodau benywaidd y teulu hwn i gyd yn ei garu – o’m mam 72 mlwydd oed i’m hwyres 7 mlwydd oed.

Y gorau. Fe oedd Under Milkwood. A ydych chi erioed wedi clywed fersiwn heb Burton? Nid yw’r un peth!

Y llais mwyaf rhywiol yr ydw i erioed wedi’i glywed.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru