
80. Rhodri ap Merfyn (Rhodri Mawr)
Arweinwyr (64 o bleidleisiau)
820 – 878
Rhyfelwr, Tywysog a"r arweinydd Cymreig cyntaf i gael ei alw yn Fawr.
Yn fab i Merfyn Frych, etifeddodd Rhodri dywysogaeth Gwynedd pan fu farw ei dad yn 844, a Phowys oddi wrth ei ewythr. Yna, priododd Angharad, ferch Seisyllwg a etifeddodd ar farwolaeth ddamweiniol ei frawd-yng-nghyfraith yn 871.
Roedd y deyrnas hon yn cynnwys gogledd a chanolbarth Cymru i gyd, ac yn ymestyn lawr i Benrhyn Gŵyr yn y de.
Roedd Rhodri wedi dod yn enwog oherwydd ei lwyddiant fel milwr mewn nifer o frwydrau yn erbyn y Llychlynwyr. Môn ddioddef waethaf o"r ymosodiadau, ac yno yn 856 y cafodd Rhodri fuddugoliaeth fawr dros Horn, arweinydd y Daniaid.
Nid o"r Gorllewin yn unig y deuai"r bygythiad i deyrnas Rhodri. Wrth gymryd at reolaeth Powys, oedd yn eiddo i"w fam, etifeddodd yr hen ymrafael â brenhiniaeth Mersia ac yn 878 lladdwyd Rhodri a"i fab Gwriad mewn brwydr yn erbyn y Saeson.
Ag eithrio"r ffeithiau hyn, ychydig a wyddom am Rhodri. Er hynny, cymaint oedd ei fawredd fel bod "yn llinach Rhodri" yn gymhwyster pwerus yn yr ymrafael am rym a ddigwyddodd yng Nghymru wedyn.
Adeiladodd ŵyr Rhodri, Hywel Dda, ar y sylfeini a osododd ei daid, gan greu Teyrnas y Deheubarth. Dyma"r uned ddaearyddol eang gyda"i chyfundrefn gyfreithiol, a ddaeth agosaf, fe ellir dadlau, at wladwriaeth unedig ac annibynnol Gymreig.
