
95. Raymond Williams
Meddylwyr (55 o bleidleisiau)
1921 – 1988
Academydd, ymgyrchydd gwleidyddol ac arloeswr ym maes astudio diwylliant poblogaidd
Treuliodd Raymond Williams ei fywyd yn chwalu"r ffiniau rhwng profiadau dyddiol pobl gyffredin a"r byd academaidd. Yn ei lyfr dylanwadol ym 1958 Culture and Society, ail ddiffiniodd ddiwylliant fel ffenomenon ehangach na"r canfyddiad ohoni cyn hynny. Dadleuodd bod diwylliant poblogaidd yr un mor ddilys â"r uchel-ael.
Roedd ei syniadau yn rhagfynegiad arwyddocaol o"r ffordd y byddai adloniant torfol, megis cerddoriaeth bop, teledu a ffilm, yn cael eu derbyn fel pynciau trafod oedd yn haeddu gwerthfawrogiad beirniadol teilwng. Arweiniodd hyn at ddisgyblaeth hollol newydd: Astudiaethau Diwylliannol.
Nid oedd Williams yn feddyliwr Prydeinig iawn. Roedd ei barodrwydd i ddealluso - "Pseuds Corner" yw hynny yng ngolwg aml i Eingl-Sacson - yn perthyn yn gryf i draddodiad Ewropeaidd Gramsci, Sartre a Foucault.
Yn sosialydd ar hyd ei oes, pan oedd yn 16 oed, llwyddodd y Maniffesto Comiwnyddol i ddwyn perswâd arno, er iddo ymddiswyddo o"r blaid pan ddaeth maint y gorthrwm Sofietaidd i"r amlwg.
Ganed Raymond Williams yn Y Fenni, yn fab i ddyn rheilffordd, ac aeth i ysgol ramadeg cyn ennill lle yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Roedd yn bennaeth uned gwrthdanciau yn ystod yr ymosodiad ar Normandi, cyn dychwelyd i fywyd academaidd ar ddiwedd Yr Ail Ryfel Byd.
Fel sawl deallusyn asgell chwith arall, roedd yn gweithio fel darlithydd i Gymdeithas Addysgiadol y Gweithwyr, ac fe barhaodd ym myd addysg i oedolion am ddeng mlynedd a hanner. Dyna oedd ei gyfraniad ef i drawsnewidiad sosialaidd y gymdeithas, er iddo beidio â gwrthod gwahoddiad i ymuno â"r Adran Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Daeth yn Athro Drama yng Nghaergrawnt ym 1968, yn sylfaenydd y New Left Review ac fe ysgrifennodd sawl nofel. Yn hwyrach yn ei fywyd, roedd cryn alw amdano fel arbenigwr ar y teledu.
Mae syniadau a ffordd Raymond Williams o edrych ar y byd yn dylanwadu hyd heddiw ar academyddion, gweinyddwyr cyrff diwylliannol a gweithredwyr y cyfryngau. Byddai"n sicr o fod wedi rhoi sêl ei fendith ar restr 100 o Arwyr Cymru sy"n rhoi lle i gitaryddion roc yn ogystal ag enillwyr Gwobr Nobel.
