Phil Campbell

20. Phil Campbell

Perfformwyr (763 o bleidleisiau)

1961 –

Prif gitarydd y grŵp roc trwm Motorhead a hoff "axe-hero" - arwr gitâr - y ffans.

Yn anochel, bydd sawl un yn crychu talcen am fod gitarydd roc ymhlith rhestr 100 o Arwyr Cymru. Ond ym myd cerddoriaeth gyfoes, ac yn enwedig yr is-ffurf y mae"r cefnogwyr niferus yn ei alw"n "roc trwm", Phil Campbell yw"r arwr delfrydol - y meistr ar y gitâr blaen.

I"r gwybodusion, Motorhead yw"r band sy"n rhoi"r profiad diffiniol o gerddoriaeth metel - cymysgfa sy"n pwnio"r pen gyda"i sŵn uchel, ei herfeiddiwch a"i natur ymosodol.

Mae"r grŵp hefyd ymhlith y rheiny sydd wedi llwyddo i oroesi. Ar ddechrau eu gyrfa, roedd aelodau Motorhead yn newid eu cwmni recordio a"u harddull gerddorol mor aml â thannau"r gitâr. Ond yn fuan fe ddatblygodd y band ei bersonoliaeth arbennig ei hun.

Y sylfaenydd a"r unigolyn sy"n ymgorffori ysbryd y grŵp yn well na neb yw calon y band - sef canwr a gitarydd bas Motorhead, Lemmy Kilmister. Yn wreiddiol roedd yn aelod o"r grŵp Hawkwind, a ddaeth yn enwog gyda"r sengl boblogaidd Silver Machine ym 1972.

Lemmy oedd yr un a ofynnodd i Phil i ymuno â Motorhead ym 1984, ac i gymryd lle "Fast" Eddie Clarke oedd wedi bod gyda"r grŵp ers amser maith. Mae Phil, a anwyd yn Nhreforest, ger Pontypridd, wedi bod yn aelod cyson ers hynny.

Mae"r sŵn dieflig y mae"n creu fel perfformiwr yn wrthgyferbyniad llwyr i"w ymddygiad a"i ffordd o fyw oddi ar y llwyfan. Yn dawel ac yn ddiymhongar, nid oes dim o falchder y duw roc yn perthyn iddo o gwbl. Nid yw dau ddegawd o enwogrwydd ym myd roc trwm, na"r ffaith fod Motorhead yn cael ei addoli gan fyddin o gefnogwyr dros y byd i gyd wedi mynd i"w ben chwaith. Dychwelyd at ei deulu ym Mhontypridd wedi taith ysgubol arall sy"n rhoi"r pleser mwyaf iddo.

Fel y dywed un cefnogwr o"r Ffindir am Phil: "Fe yw"r Cymro mwyaf swnllyd yr ydw" i erioed wedi clywed ac mae"n foi ffein hefyd. Rydw i wedi cwrdd ag ef unwaith neu ddwy, ac mae bob amser yn gwrtais ac yn ddiymhongar, er ei fod yn aelod o un o grwpiau roc a rôl go iawn y byd. Y gŵr bonheddig perffaith, sydd yn cynrychioli Cymru mewn ffordd ardderchog!"

Eich sylwadau chi

Yn syml, un o’r cerddorion Cymreig gorau sydd i’w gweld heddiw!

Mae'n seren!!

Gitarydd anhygoel a gwr hyfryd hefyd!!!

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru