Patrick Jones

32. Patrick Jones

Pobl Greadigol (260 o bleidleisiau)

1966 –

Bardd a dramodydd pwerus y mae ei gysylltiadau cryf â cherddoriaeth a diwylliant cyfoes wedi denu cynulleidfa newydd i"r Theatr yng Nghymru.

Mae tynged y dosbarth gweithio yn ne Cymru dros y canrifoedd wedi bod yn gyfrwng cryf o ysbrydoliaeth i artistiaid o bob math. Cynnyrch brwydro yn erbyn caledi bywyd yw Patrick Jones, ac mae ei waith yn adlewyrchu"r newidiadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol sydd, dros y chwarter canrif diwethaf, wedi effeithio ar Gymoedd Gwent, lle cafodd ei eni.

Mae"n cael ei weld fel awdur cyfoes sy"n ysgrifennu gydag angerdd ac yn agored ei galon. Fe"i magwyd yn y Coed Duon yng Ngwent ac mae wedi tystio dirywiad graddol y diwydiannau mawr traddodiadol fel glo a dur, a"r effaith ofnadwy y mae hynny wedi ei gael ar ei gymuned.

Mae"r rebel ynddo hefyd yn milwrio yn erbyn strwythur cymdeithasol bywyd yn y cymoedd, a"r berthynas gymhleth hon rhyngddo â"r lle y cafodd ei eni a"i fagu sy"n bwydo ei archwaeth at greu.

Ei waith mwyaf adnabyddus yw ei ddrama "Everything Must Go", stori boenus am anobaith a dial treisgar, a fu ar daith lwyddiannus yn y Deyrnas Unedig ym 1999. Mae"n rhannu ei theitl ag albwm y Manic Street Preachers a gafodd ei rhyddhau ym 1996, ac yn wir mae un o gymeriadau"r ddrama yn siarad ymron drwy"r amser yn defnyddio geiriau caneuon y Manics.

Wrth gwrs mae"r cysylltiad rhwng y dramodydd â"r band yn fwy na dyfais marchnata hwylus. Jones yw brawd hynaf Nicky Wire, sy"n ysgrifennu geiriau caneuon y Manic Street Preachers, ac yn chwarae"r bas iddynt. Mae"r band yn aml wedi darparu"r gerddoriaeth ar gyfer ei ddramâu a hefyd ar gyfer ei albwm ym 1999 o lefaru cydweithredol "Commemoration and Amnesia".

Y tu hwnt i ddenu diddordeb y cyfryngau, mae"r berthynas hon wedi bod yn fendith gymysg i Jones. Yn ei sgil, mae ei waith wedi cael ei feirniadu"n llym.

Er hynny, mae"n dal i ysgrifennu dramâu heriol fel The War is Dead, Long Live the War lle mae milwr o"r Rhyfel Byd Cyntaf yn cwrdd â milwr fu"n ymladd yn Rhyfel y Gwlff, ac mae"n parhau"n un o"r ychydig ddramodwyr Cymreig cyfoes i fynd â"i waith y tu hwnt i gyfyngiadau"r theatr draddodiadol.

Eich sylwadau chi

Y bardd Cymreig modern mwyaf dylanwadol.

Gwr sy’n gwybod sut beth yw bod yn Gymro, yn ifanc ac ar y tu allan.

Un o feirdd mawr gwirioneddol ein cyfnod, mae ei waith yn dal teimladau pobl ifanc Cymru heddiw.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru