Owain Lawgoch

84. Owain Lawgoch

Arweinwyr (62 o bleidleisiau)

1330 – 1378

Anturiwr tywysogaidd canoloesol a fu"n ymladd dros Ffrainc yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd.

Yn Ffrainc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd dau Dywysog Cymru yn ymladd ar ddwy ochr wahanol. Yr un a elwir yn hanesyddol yn Dywysog Du oedd deiliad swyddogol y teitl. Byddai eraill yn ystyried y llall fel gwir dywysog Cymru.

Gor-nai i Lywelyn II oedd Owain ap Thomas ap Rhodri, ac felly roedd yn perthyn yn uniongyrchol i linach Frenhinol Gwynedd.

Ganed Owain ar ystad ei dad yn Surrey. Roedd yn ymwybodol o hanes cythryblus ei deulu a hwyrach mai dyna â"i ysgogodd i fynd i Ffrainc i gael ei hyfforddi fel milwr, a thyngu llw o ffyddlondeb i frenin Ffrainc. Mae gwaith Jean Froissart o"r cyfnod yn cyfeirio ato fel "Yvain de Galles" - de Galles yn Ffrangeg yn golygu "o Gymru".

Yn ystod degawdau cyntaf y Rhyfel Can Mlynedd, Ffrainc oedd wedi colli"r rhan fwyaf o"r brwydrau. Ond, oherwydd bod Owain, ar ôl iddo arwain sawl cyrch llwyddiannus yn Ffrainc a Sbaen, wedi dod i amlygrwydd fel cadlywydd medrus - a thanbaid, yn ôl y sôn - dechreuwyd ystyried y posibilrwydd cyffrous o ymosod ar y Saeson ar eu tir eu hunain.

Ym 1369, wedi i"w dir yn Lloegr gael ei gymryd oddi arno, fe gyhoeddodd Owain ei hun yn dywysog Gwynedd, ac fe ffurfiodd lynges yn Harfleur gyda"r bwriad o oresgyn Cymru. Ond gwasgarwyd ei longau gan stormydd a chafodd yr ymgyrch ei gohirio.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, derbyniodd 300,000 ffranc gan y Ffrancwyr er mwyn rhoi cynnig arall arni. Ond, unwaith eto, oherwydd tywydd anffafriol, methodd y llynges â hwylio ymhellach nag Ynysoedd y Sianel.

Mae rhai haneswyr yn amau mai unig gymhelliad Owain wrth fygwth ymosod - ac fe barodd hynny am sawl blwyddyn - oedd i wrthdynnu sylw"r Saeson.

Beth bynnag am hynny, roedd y Saeson yn ei gymryd o ddifrif i"r fath raddau fel iddynt anfon llofrudd - Sgotyn o"r enw Jon Lamb - i"w ladd. Wedi llwyddo i ymdreiddio i fintai Owain, fe drawodd Lamb yn ystod gwarchae Montagne ym 1378.

Felly y daeth bywyd a gyrfa"r cymeriad lliwgar hwn i ben. Ond nid hynny"n unig a ddigwyddodd - rhoddwyd terfyn di-droi-nôl hefyd ar linach Frenhinol fwyaf grymus Cymru.

Eich sylwadau chi

Ef oedd yr unig gomander tramor ym myddin Ffrainc yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Roedd ei wrthwynebwyr yn ei ofni a’i barchu a gallai ei ddyhead i arwain y genedl Gymreig yn erbyn y Saeson fod wedi’i wireddu pe na bai wedi cael ei lofruddio.

Cafodd Owain Lawgoch neu Yvain de Galles fel oedd y Ffrancwyr yn ei alw ei ysgrifennu allan o hanes gan y sefydliad Saesnig ond darganfuwyd ei hanes yn ddiweddarach ym Mharis, arweinydd dynion mewn brwydr, en l'honneur d'un Chevalier de France, fe’i gydnabuwyd gan y Ffrancwyr fel gwir Dywysog Cymru.

Gwr aml dalentog a phetai’n Sais does dim dwywaith y byddai wedi’i gydnabod yn eang.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru