Neil Kinnock

57. Neil Kinnock

Arweinwyr (135 o bleidleisiau)

1942 –

Unig arweinydd Cymreig y Blaid Lafur a ddaeth o fewn trwch blewyn i fod yn Brif Weinidog.

Os mai efelychu yw ffurf fwyaf didwyll canmoliaeth, bydd Neil Kinnock yn ddyledus i"r seneddwr Americanaidd, Joe Biden, am byth. Fe oedd yr un a "fenthyciodd" eiriau"r arweinydd Llafur am fod "y Kinnock cyntaf o blith miloedd o genedlaethau i fynd i brifysgol".

Roedd dawn Neil Kinnock am lunio ymadrodd cofiadwy yn mynd y tu hwnt i"r sylwadau bachog parod. Roedd ei areithiau mawr bob amser yn emosiynol ddwys - nodwedd a oedd yn gryfder ac yn wendid pennaf iddo ef fel gwleidydd. Roedd ei araith yng Nghaerdydd noson cyn etholiad 1987 wedi cyffwrdd nifer fawr o ffyddloniaid y blaid hyd at ddagrau.

Fel arweinydd Llafur yr hyn oedd yn ganolog i"r hyn gyflawnodd oedd atal y blaid rhag symud i"r chwith drwy yrru"r Trotsciaid a"r Tueddiad Milwriaethus allan. Wedi iddo eu gwawdio a"u bychanu yn gyhoeddus yng nghynhadledd y blaid ym 1985, roedd ei fuddugoliaeth fewnol yn arwydd bod Llafur yn dychwelyd fel grym etholiadol ar ôl eu perfformiad trychinebus ddwy flynedd ynghynt.

Ym 1992, roedd ei orfoledd cynamserol mewn rali yn Sheffield yn cael ei weld fel un a gollodd etholiad arall i Lafur - un yr oedd disgwyl mawr i"r blaid ennill. Daeth hynny â"i yrfa yn rheng flaen gwleidyddiaeth Brydeinig i ben, ac ymunodd â gwladweinwyr hŷn Brwsel fel Comisiynydd Ewropeaidd.

Er bod de Cymru wastad wedi bod yn fagwrfa ffrwythlon i Lafur, Neil Kinnock yw"r unig Gymro yn hanes y blaid i"w harwain. Er i"w gymhwyster fel aelod dosbarth gweithio"r Cymoedd fod o gymorth iddo gyrraedd San Steffan ym marn cyfryngau Llundain roedd hefyd yn faich.

Methodd â chael gwared ar y label "Welsh Windbag", a methodd Neil Kinnock ag ennill calonnau "Middle England" lle"r oedd y seddau ymylol yr oedd angen i Lafur eu cipio er mwyn ennill grym.

Roedd yn wendid na ailadroddwyd gan Tony Blair pan enillodd mewn ffordd gyfrwys bleidleisiau etholwyr anwadal oddi wrth y Toriaid ym 1997. Er hynny, roedd ei lwyddiant ef a Llafur "Newydd" i"w briodoli yn sylweddol i"r seiliau a osodwyd gan Neil Kinnock.

Eich sylwadau chi

Efallai na enillodd etholiad, ond fe drodd y blaid Lafur a hebddo ni fyddai Tony Blair wedi ennill.

Cwbl fawrfrydig wrth golli’n yr etholiad cyffredinol. Mae wedi bod yn ffigwr anferth yn senedd Ewrop. Sgiliau arweinyddol gwych.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, prin iawn yr ydym wedi gweld arweinydd unrhyw blaid wleidyddol yn siarad â gwir angerdd. Mae’n ymddangos bod Neil yn gwneud hyn drwy’r amser. Y prif weinidog gorau na chawsom.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru