Mike Peters

11. Mike Peters

Perfformwyr (1594 o bleidleisiau)

1959 –

Canwr a cherddor y mae ei ffans ffyddlon wedi"i gynorthwyo i oroesi anwadalwch y diwydiant pop.

Ym myd cerddoriaeth boblogaidd, pan fo ffans yn glafoerio"n frwd dros berfformiwr un funud, a"r nesaf yn ei chwydu i ddifancoll, mae Mike Peters wedi dangos fel y gall sylfaen gref o gefnogwyr ddisodli"r angen am sylw cyson gan y wasg a"r cyfryngau.

Wedi ei ffurfio yn y Rhyl ym 1978, fe ryddhaodd y band - a adnabuwyd yn ddiweddarach fel "The Alarm" - chwe albwm a 15 sengl a gyrhaeddodd y brig. Ym Mhrydain fe"u cofir yn bennaf am "Sixty Eight Guns", math o anthem oedd â"i geiriau wedi eu seilio ar atgofion Mike o gyfnod ei arddegau yng ngogledd Cymru. Cyrhaeddodd yr ugain uchaf yn y siartiau Prydeinig ym 1983.

I lawer o fandiau, pan ddaw eu cyfnod i ben yn llygad y cyhoedd, fel arfer fe anghofir amdanynt. Ond nid felly y bu i Mike Peters a"r "Alarm".

Efallai mai ei gam doethaf oedd sefydlu perthynas uniongyrchol gyda"i gefnogwyr ar draws y byd, ac anwybyddu rhyngfasnachwyr y diwydiant. Roedd yr Alarm wastad yn creu argraff fel band byw, a gwnaeth Mike ei hun lu o ffrindiau wrth fynd i siarad â"i ffans ar ddiwedd pob gig.

Ym 1992, a"r Alarm wedi chwalu"n rhacs, ni anghofiodd y ffans am Mike Peters. Fel unawdydd, aeth ar daith o gwmpas Prydain a"r UDA, gan nodi enwau a chyfeiriadau cefnogwyr ble bynnag yr oedd. Ffurfiodd y rhain sylfaen i"r Mike Peters Organisation. Gwahoddwyd aelodau yr MPO i"r Rhyl i ddigwyddiad "The Gathering", ac yn sgil ei lwyddiant trefnir digwyddiad yn flynyddol.

Yn 2000, pan ryddhaodd yr Alarm set gyflawn o"u caneuon o"r gorffennol, cytunodd Mike i recordio cân a chyflwyniad personol i unrhyw un a fyddai"n gofyn am un. Roedd yn disgwyl gwneud ychydig gannoedd, ond bu"n rhaid iddo recordio miloedd.

Heddiw, yn y diwydiant cerddoriaeth sy"n cael ei reoli gan yr ychydig pwerus, ni fu"r perfformwyr eu hunain erioed mor bell oddi wrth eu ffans cyffredin. Mae Mike Peters wedi mynnu pontio"r gwacter hwnnw ac mae ei deyrngarwch i"w gefnogwyr wedi talu ar ei ganfed.

Eich sylwadau chi

Perfformiwr gwirioneddol, dros 25 mlynedd o ddiddanu ac nid yw erioed wedi derbyn y gydnabyddiaeth mae’n haeddu.

Tad cerddoriaeth roc Gymreig. Hebddo ni fyddai Manic Street Preachers, Sterephonics a.y.b wedi bod

Yn syml, tad cerddoriaeth roc. Y canwr a'r cyfansoddwr sydd wedi'i danbrisio fwyaf yn ei genhedlaeth.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru