
29. Michael D Jones
Arloeswyr (284 o bleidleisiau)
1822 – 1898
Arloeswr "Rhyddid i Gymru" ac un o"r mwyaf blaenllaw yn y mudiad i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y wladwriaeth Brydeinig ar gerdded, gartref a thramor. Yng Nghymru, yn sgil y diwydiannu a"r trefoli mawr a ddigwyddodd, roedd y Gymraeg dan fygythiad, ac roedd hyd yn oed rhai o"r hoelion wyth yn proffwydo ei thranc.
Gweinidog gyda"r Annibynwyr a diwinydd oedd Michael D Jones, a aeth fel miloedd o"i gyfoeswyr i fyw a gweithio yn UDA. Sefydlwyd nifer o gymunedau Cymreig a Chymraeg yno, ond sylweddolodd Michael Jones y byddai hunaniaeth ddiwylliannol yr ymfudwyr hyn yn gwanhau dros gyfnod o amser.
Gafaelodd yn y syniad o Wladfa Gymreig. Ar ôl ystyried nifer o leoliadau, gan gynnwys rhai yn yr Unol Daleithiau, a Phalestina hyd yn oed, ei argymhelliad yn y diwedd oedd Patagonia, ac ardal o gan milltir sgwâr yn Chubut oedd yn cael ei hystyried yn ffrwythlon, heb lawer yn byw yno. Er i Ysgrifennydd Cartref llywodraeth Ariannin gytuno y byddai"r ardal hon yn cael ei chydnabod fel Gwladfa Gymreig, ni chafodd yr addewid honno ei chadarnhau gan Gyngres Ariannin.
Hwyliodd y 163 o ymfudwyr cyntaf, gan gynnwys mab Michael D Jones, sef Llwyd, o Lerpwl yn llong y Mimosa ym Mehefin 1865. Ar ôl mordaith hunllefus, glanio ym Mhorth Madryn a theithio drigain cilomedr i"r Gogledd i Ddyffryn Camwy, daethant i sylweddoli nad oedd y lle hwn yn llifo o laeth a mêl, fel yr oeddent wedi cael eu harwain i feddwl.
Ond trwy eu hymdrechion arwrol, llwyddont i ddyfrhau"r anialdir, a sefydlu ffermydd. Daethant yn ffrindiau â"r brodorion Indiaidd, ac o dipyn i beth sefydlwyd cangen arall o"r Wladfa wreiddiol mewn lle mwy ffrwythlon yng Nghwm Hyfryd wrth droed yr Andes.
Er i athroniaeth Michael D Jones, o gael "capel, ysgol a senedd" lle y gallai "cenedl gref...mewn cartref Cymraeg" ffynnu am gyfnod, yn y diwedd, ym 1880, disgynnodd llaw ormesol llywodraeth Ariannin yn drwm ar eu gwar. Sbaeneg fyddai"r iaith swyddogol o hynny ymlaen.
Bu adfywiad yn yr iaith yn y chwedegau, pan gryfhawyd y cysylltiadau rhwng Cymru a"r Wladfa. Mae statws yr Eisteddfod a gynhelir yno ddwywaith y flwyddyn wedi codi, a phenderfynodd y Swyddfa Gymreig o dan y Llywodraeth Dorïaidd, ariannu cynllun i gyflogi athrawon i ddysgu Cymraeg yno - ac mae hynny yn parhau o dan adain y Cynulliad Cenedlaethol.
Er iddo gyfrannu"n helaeth yn ariannol i"r ymgyrch i sefydlu"r Wladfa, dim ond unwaith y bu Michael D Jones ym Mhatagonia. Yn sicr, er na wireddwyd ei freuddwyd o Gymru Newydd Annibynnol yn llwyr o bell ffordd, y wyrth yw bod y Gymraeg i"w chlywed o hyd ar y strydoedd yno, ac os rhywbeth, mae"r ymwybyddiaeth o Gymreictod yn cryfhau.
