Megan Lloyd George

91. Yr Arglwyddes Megan Lloyd George

Arweinwyr (56 o bleidleisiau)

1902 – 1966

Y Gymraes gyntaf i fod yn aelod seneddol a bu"n gwasanaethu yn San Steffan am ddeng mlynedd ar hugain.

Yn ystod y pedwar ugain mlynedd ers i ferched ennill yr hawl i bleidleisio ac i sefyll fel ymgeiswyr, dim ond chwe aelod seneddol benywaidd sydd wedi cael eu hethol yng Nghymru. Megan Lloyd George, nid yn unig oedd y cyntaf ohonynt, ond hi hefyd o bell ffordd, sydd wedi gwasanaethu hwyaf, a"r unig un i fod yn Ddirprwy Bennaeth ar ei phlaid.

Yn ferch i"r cyn-Brif Weinidog a"r ffigwr amlycaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, roedd y penderfyniad i ddewis Megan i gystadlu am sedd ddiogel Ryddfrydol Ynys Môn ym 1929 yn achos cryn ddadlau. Roedd brawd Megan, Gwilym, eisoes yn aelod seneddol, ac roedd rhai o"r farn fod David Lloyd George yn benderfynol o greu llinach deuluol bwerus.

Dechreuodd yr honiadau o nepotiaeth ddistewi wrth i Megan ddechrau gyrfa seneddol fyddai"n parhau am dros 30 blynedd, er gwaetha"r toriad hir yn y 50au. Er i gwymp ym mhoblogrwydd y Blaid Ryddfrydol ei chadw draw o"r swyddi uchaf - ei thad oedd arweinydd y llywodraeth Ryddfrydol ddiwethaf - fe ddaeth yn Ddirprwy Arweinydd ar y blaid ac yn rhinwedd ei hymdrechion ei hun, daeth yn bersonoliaeth amlwg yn y byd gwleidyddol.

Nid oedd materion Cymreig byth ymhell o frig ei hagenda wleidyddol. Hi oedd llywydd cyntaf yr ymgyrch dros "Senedd i Gymru" - cynnig cynnar i geisio sicrhau llywodraeth ddatganoledig. Ar ôl hynny bu"n aelod amlwg o Bwyllgor Amddiffyn Tryweryn - y corff a sefydlwyd i frwydro yn erbyn y cynllun i foddi"r pentref ger y Bala er mwyn cyflenwi d*#373;r i drigolion Lerpwl.

Arweiniodd ymgyrchoedd tebyg i"r rhain at agwedd fwy goddefol ar faterion Cymreig, nid yn unig yn y Senedd ond hefyd yn y ffordd yr oedd llywodraeth yn gweithio. Ym 1944 Megan Lloyd George oedd yr un a agorodd y "Ddadl Gymreig" gyntaf erioed yn San Steffan. Yn ddiweddarach roedd hi"n ffigwr amlwg ymhlith y rhai oedd yn gyfrifol am greu"r Swyddfa Gymreig a swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y 60au cynnar.

Serch hynny fe newidiodd ei phlaid. Ar ôl iddi golli Ynys Môn i Cledwyn Hughes ym 1951, ymunodd â"r Blaid Lafur - un o blith nifer o wleidyddion amlwg a wnaeth hynny ar y pryd.

Dychwelodd i"r senedd ym 1957, ar ôl ennill Caerfyrddin dros Lafur, a bu"n aelod seneddol tan iddi farw naw mlynedd yn ddiweddarach.

Eich sylwadau chi

Mentrodd fynd yn erbyn y llif, ond aros yn driw i’w gwreiddiau.

Roedd yn wraig gref a dylanwadol a oedd yn gwybod pa faterion oedd bwysicaf. Arweiniodd y ffordd i ferched heddiw fod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth ac i fynegi ei theimladau. Bravo Megan!

Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru