Mark Hughes

60. Mark Hughes

Perfformwyr (132 o bleidleisiau)

1963 –

Un o beldroedwyr mwyaf talentog ei genhedlaeth a"r rheolwr ieuengaf i arwain ei wlad.

Cafodd ei ddisgrifio unwaith gan reolwr Clwb Manchester United, Syr Alex Ferguson, fel "y chwaraewr gemau mawrion gorau i mi ei adnabod erioed". Talodd Mark Hughes y deyrnged yn ôl trwy berfformio"n wych am 13 mlynedd ar y lefel uchaf.

Ymunodd Hughes â Manchester United pan oedd yn 14 oed, ac mae"n cael y clod yn aml am ei ran allweddol yn esgyniad y clwb i un o"r goreuon yn y byd pêl-droed.

Pryd bynnag y deuai"r alwad, byddai Mark Hughes yn ei hateb. O fewn wythnos iddo sgorio dwy gôl yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Crystal Palace ym 1990, sgoriodd ddwy arall yn erbyn Barcelona yn rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, pan enillodd Man Utd dlws am y tro cyntaf ers 22 mlynedd.

Enillodd ei arddull chwarae grymus gardiau coch, anfri"r gwrthwynebwyr, ac edmygedd diddiwedd cefnogwyr ei glwb ei hun. Gyda chraidd disgyrchiant isel, a chorff perffaith i gysgodi"r bêl, fe fyddai hefyd yn manteisio ar ei gyffyrddiad deheuig a"i gic bwerus.

Hyd yn oed fel aelod iau y frawdoliaeth o fewn y clwb oedd yn enwog am eu diota, roedd Hughes yn ymwybodol o"r ffaith bod cael y ffugenw "coesau lager" yn annhebyg o arwain at yrfa estynedig. Ar ôl dwy flynedd yn Barcelona a Bayern Munich, dychwelodd i Old Trafford ym 1988 gyda"i ben mawr diwethaf yn atgof pell.

Wrth gydweithio ag un o streicwyr arall mwyaf Cymru, Ian Rush, cafwyd ambell i foment gynhyrfus ar y llwyfan rhyngwladol, ond er iddo ennill 72 o gapiau, mae ei gyfanswm o 16 gôl yn adlewyrchu"r ffaith syml mai prin oedd y cyfleon yn y crys coch.

Pan oedd yn dal i chwarae"n llawn amser, cafodd Hughes, yn annisgwyl, ei benodi"n rheolwr ar dîm Cymru ym 1999.

Heb unrhyw ffws a ffwdan, daeth â theimlad newydd o drefn i"r sefyllfa, ac, i"r gwrthwyneb bron i"w ffordd o chwarae, aeth i"r afael â"i swydd gyhoeddus newydd gydag urddas tawel.

Methodd â gwyrdroi ffawd ei dîm yn eu hymdrech, yn 2002, i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, ond, gyda"i sgiliau trefnu, roedd bron â sicrhau lle"r tîm yn rowndiau Terfynol Cwpan Ewrop yn 2004, pan wnaethant golli"r gêm ail gyfle olaf yn erbyn Rwsia.

Am unwaith llithrodd y Wobr Fawr o"i afael.

Eich sylwadau chi

Daw â balchder i Gymru drwy bob buddugoliaeth i dîm Cymru.

Am newid pêl-droed yng Nghymru

Am ddod ag angerdd yn ôl i Gymru tra’n cael ei barchu a’i hoffi.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru