
66. Margaret Haig Thomas (Iarlles Rhondda)
Arloeswyr (108 o bleidleisiau)
1883 – 1958
Swffragét, gwas sifil a chyhoeddwr a adnabuwyd fel "Y Buddug Gymreig".
Mae"n ymddangos yn anghredadwy heddiw, ond ar ddechrau"r 20fed ganrif, roedd merched ym Mhrydain yn cael eu gwahardd rhag pleidleisio a rhag bod yn aelodau seneddol. Chwaraeodd ymgyrch penderfynol ac weithiau, treisgar, merched y mudiad swffragét ran allweddol yn y frwydr a enillodd gydraddoldeb yn y pendraw.
Roedd Margaret Haig Thomas yn nodweddiadol o ferched y mudiad. O gefndir breintiedig, ac wedi cael addysg dda, gwrthododd cael ei thrin fel dinesydd eilradd oherwydd ei rhyw. Sylwodd yn gynnar iawn bod uchelgais mewn dynion ifanc yn rhinwedd, ond yn wendid mewn merched.
Ymunodd Margaret â mudiad Emmeline Pankhurst, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y merched, a threfnodd y cyfarfod cyntaf yng Nghasnewydd, er gwaethaf anghymeradwyaeth ei g*#373;r, Humphrey Mackworth.
Ym 1908, cafodd Margaret ei harestio a"i charcharu am geisio chwalu blwch llythyrau gyda bom cartref. Gan wrthod mechnïaeth yr oedd ei g*#373;r yn barod i"w thalu, aeth ar streic newyn, a chafodd ei rhyddhau ar ôl pum niwrnod heb fwyd.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i"r Unol Daleithiau gyda"i thad, yr aelod seneddol Rhyddfrydol, David Thomas - Iarll Rhondda yn ddiweddarach - i oruchwylio prynu arfau.
Roeddent ar eu ffordd yn ôl ar y Lusitania, pan gafodd y llong ei tharo â thorpido oddi ar arfordir Iwerddon. Roeddent yn ffodus iawn i ddianc yn ddianaf.
Ym 1917, derbyniodd Margaret swydd fel Cyfarwyddydd Adran y Merched yn y Gwasanaeth Gwladol, a chwaraeodd ran bwysig yn niwygio Llu Awyr Brenhinol y Merched.
Flwyddyn yn ddiweddarach, wedi marwolaeth ei thad, aeth i"r llys i geisio etifeddu ei sedd yn Nhŷ"r Arglwyddi. Er na fu"n llwyddiannus, fe barodd ei hymdrechion i George Bernard Shaw ddatgan y byddai"r canlyniad wedi dangos anwybodaeth a hurtrwydd y gwrywod yn fwy nag erioed.
Yn ddiweddarach, sefydlodd y cylchgrawn Time and Tide, ac er na wnaeth elw erioed roedd yn llwyfan i waith awduron mawr fel George Orwell, Virginia Woolf a D.H.Lawrence.
