
21. Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf)
Arweinwyr (564 o bleidleisiau)
1230 – 1282
Gwir Dywysog Olaf Cymru, a fynnodd gydnabyddiaeth i genedl y Cymry cyn cael ei ladd gan y Saeson.
Am bron i ugain mlynedd rhwng 1258 a 1277, roedd hi"n ymddangos bod Cymru ar fin dod yn wlad annibynnol, wedi ei huno gan gyfreithiau, arferion ac iaith. Dyma oedd gorchest Llywelyn ap Gruffudd, yr unig Dywysog Cymreig a gafodd ei gydnabod gan Frenin Lloegr.
Roedd y statws hwnnw, a ddyfarnwyd iddo gan Gytundeb Trefaldwyn ym 1267, yn nodi diwedd cyfnod rhyfeddol o ehangu pan roedd Llywelyn wedi ymestyn ei arglwyddiaeth o frenhiniaeth hynafol Gwynedd yn y gogledd, i gynnwys y rhan fwyaf o"r Gymru fodern.
Ond tra bod Llywelyn yn rheoli Cymru fel unrhyw deyrn arall yn y Canol Oesoedd, roedd cyfyngiadau ar ei rym. Roedd yn rhaid iddo dalu gwrogaeth i Harri"r III, brenin Lloegr o dan gytundeb oedd wedi cwtogi"n sylweddol ar y cynnydd yr oedd ei daid, Llywelyn Fawr wedi ei sicrhau.
Tra bod Harri wedi goddef atgyfodiad cenedligrwydd y Cymry o dan y Llywelyn iau, roedd ei fab, Edward I, yn fwy calon-galed. Efallai, bod Llywelyn wedi bod yn annoeth wrth greu arferiad o godi gwrychyn Edward yn rhy aml.
Gwrthododd fynd i seremoni coroni Edward, cyhoeddodd ei fwriad i briodi merch y rebel o Sais, Simone de Montford, a dechreuodd adeiladu castell urddasol ar y ffin yn Sir Drefaldwyn.
Nid oedd Edward yn ddyn fyddai"n fodlon cael ei herio fel hyn heb ymateb. Ym mis Tachwedd 1276, rhoddodd bris ar ben Llywelyn.
Y flwyddyn wedyn, arweiniodd Edward fyddin anferth ar draws Cymru a cheisiodd newynu trigolion perfeddwlad Llywelyn nes iddynt ildio.
Gwyddai Llywelyn y byddai"n cael ei drechu. Ildiodd ac yn erbyn ei ewyllys, talodd wrogaeth i Edward.
Ym 1282, cododd y Cymry unwaith eto, gan adennill yn gyflym reolaeth dros sawl cadarnle allweddol, ac ail-dyngu llw o ffyddlondeb i Llywelyn. Ger Culfor Menai, cafwyd buddugoliaeth wych dros luoedd oedd yn deyrngar i Edward.
Arweiniodd Llywelyn ei fyddin i"r ardal o gwmpas Llanfair ym Muallt. Yno, ar 11 Rhagfyr 1282, cafodd ei ladd gan filwr o Sir Amwythig na wyddai mai"r Tywysog ydoedd.
A dyna ddiwedd ar obeithion y Cymry o fod yn genedl annibynnol.
