
54. Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr)
Arweinwyr (139 o bleidleisiau)
1173 – 1240
Tywysog Canoloesol a lwyddodd i ryddhau gafael coron Lloegr ar Gymru.
Yn y Canol Oesoedd, roedd y rheolau etifeddiaeth, uwchlaw popeth, yn ei gwneud hi"n anodd i Gymru gyflawni unrhyw obaith o ddatblygu fel gwladwriaeth annibynnol. Yn lle bod tir a theitl yn cael eu gadael i"r mab hynaf, roedd popeth yn cael ei rannu rhwng yr holl etifeddion. Er eu bod yn rhannu"r un cyfreithiau, arferion ac iaith, anaml iawn y byddai"r Cymry yn unedig o dan un llywodraethwr.
Dyna oedd y sefyllfa pan etifeddodd Llywelyn Fawr draean o hen frenhiniaeth Gwynedd. Er hynny, yn 27 oed, ef oedd y dyn mwyaf pwerus yn y Gogledd. Trechodd ei ewythr Dafydd mewn brwydr, elwodd o farwolaeth cefnder iddo, ac fe gymerodd y llyw i reoli Gwynedd i gyd.
Roedd Llywelyn mor hirben a chraff yn wleidyddol ag unrhyw dywysog canoloesol. Daeth yn ffrind i"r Brenin John, gan ei gynorthwyo yn ei gyrch yn erbyn yr Albanwyr, a phriodi Siwan, ei ferch anghyfreithlon. Roedd hyn i gyd yn atgyfnerthu safle Llywelyn yng Nghymru, ac yn help iddo gipio rheolaeth ar Bowys a Cheredigion.
Nid oedd John, y mae hanes yn ei gyfrif fel teyrn gwan ac anwadal, yn rhywun y gellid dibynnu arno. Trodd yn erbyn Llywelyn, ac wedi gorymdeithio i ogledd Ddwyrain Cymru, fe"i trechodd mewn brwydr. Roedd yn arwydd i"r Cymry i godi ac uno y tu ôl i Lywelyn.
Roedd John hefyd dan bwysau o du ei farwniaid. Arweiniodd y Siarter Fawr, y Magna Carta, at ryfel cartref yn Lloegr a manteisiodd Llywelyn ar gyfle gwych. Ail gipiodd y tiroedd coll ac fe orymdeithiodd gyda"i fyddin i"r Amwythig.
Dros y tair blynedd nesaf lledodd ei reolaeth i gynnwys ardaloedd yn y de a thorrodd grib awdurdod Arglwyddi"r Mers. Galwai ei hun yn Dywysog Gwynedd, ac yn ddiau ef oedd yr unigolyn mwyaf pwerus yng Nghymru - safle a gafodd ei gydnabod gan Gytundeb Caerwrangon ym 1218.
Roedd Llywelyn Fawr yn fwy na chadlywydd oedd yn achub ar bob cyfle. Ewyllysiodd adolygu a datblygu Cyfraith Cymru, sef hen Gyfraith Hywel Dda, ac fe roddodd nawdd i feirdd. Yn awyrgylch anwadal gwleidyddiaeth grym y canol oesoedd, gosododd sylfeini cryfion y byddai ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd yn gallu adeiladu arnynt.
