Laura Ashley

72. Laura Ashley

Pobl Greadigol (87 o bleidleisiau)

1925 – 1985

Cynllunydd ffasiwn ac entrepreneur a sefydlodd ymerodraeth fusnes rhyngwladol.

"Llundain - Paris - Efrog Newydd - Carno". Dyna restr y lleoliadau mawreddog ac yn dilyn oedd y pentref ym Mhowys lle sefydlodd Laura Ashley ei phencadlys rhyngwladol. Cafodd ei hysbrydoli gan yr hyn oedd o"i chwmpas yng Nghymru, a chreodd steil oedd yn apelio at filiynau o bobl o Orpington i Osaka.

Fe"i ganed ym Merthyr Tudful, a"i magu yn Llundain, ac fe ddechreuodd gynllunio a phrintio defnyddiau ar fwrdd y gegin yn ei chartref. Roedd ei gŵr Bernard yn bartner busnes iddi hefyd ac fe chwaraeodd rôl flaenllaw yn llwyddiant y busnes. Ymhen hir a hwyr agorwyd siop gyntaf Laura Ashley yn Kensington.

Wrth i"r galw gynyddu, bu"r Ashleys yn edrych am leoliad cynhyrchu, gan ymsefydlu"n y diwedd yng nghanolbarth Cymru. Roedd Laura Ashley wedi dyheu yn hir i ddychwelyd i"w mamwlad, ac roedd ei chynlluniau yn adlewyrchu"n gynyddol lonyddwch gwledig ardal yr oedd hi"n ei charu. Roeddent yn deffro atgofion o fyd y gorffennol o reithordai Fictoraidd, blodau wedi"u gwasgu, a dolydd heb eu difetha.

I"r prynwyr ffasiwn oedd yn adweithio wedi"r chwedegau modernaidd, roedd dillad Laura Ashley yn apelio"n enfawr. Roedd gofid am yr amgylchedd ac ansawdd bywyd mewn byd cynyddol trefol wedi cyrraedd. Yn fwy nag unrhyw gynllunydd arall, roedd Laura Ashley wedi dal yr hwyliau.

Roedd yr ad-daliad i ganolbarth Cymru yn sylweddol. Agorwyd gweithfeydd mawr yng Ngharno ac yn y Drenewydd. Ar un adeg estynnai"r gadwyn o ffatrïoedd i fyny i arfordir y gogledd, ac roeddynt yn diwallu 5,000 o siopau ledled y byd.

Gyda Laura a Bernard Ashley ar binacl eu llwyddiant, digwyddodd trychineb. Pan oedd hi"n ymweld â"i merch, disgynnodd Laura i lawr grisiau, ac ar ôl deng niwrnod yn yr ysbyty, bu farw.

Serch hynny, bwriwyd ymlaen â"r cynlluniau i lansio"r cwmni ar y farchnad stoc - un o"r lansiadau mwyaf llwyddiannus i"r gyfnewidfa Stoc yn Llundain ei gweld erioed. Cafodd Bernard Ashley, a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad y gweithfeydd cynhyrchu yng Nghymru, ei anrhydeddu"n farchog ym 1987.

Yn y blynyddoedd dilynol, roedd newid yn y chwaeth ffasiwn yn gwneud pethau"n anodd i Laura Ashley PLC. Caewyd rhai ffatrïoedd a gwerthwyd siopau. Er hynny, mae"r cwmni"n dal i fod yn gyflogwr pwysig yng Nghymru, ac yn deyrnged fyw i"r sawl a"i sefydlodd.

Eich sylwadau chi

Cynllun dillad a dodrefn y cartref oedd ymhell cyn ei amser, mae’n parhau i gael ei hefelychu heddiw.

Creodd frand masnachol cryfaf Cymru.

Eicon Cymru a’r byd.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru