
41. Kate Roberts
Pobl Greadigol (167 o bleidleisiau)
1891 – 1985
Awdur rhyddiaith fwyaf nodedig yr 20fed ganrif a ddywedodd ei bod yn "gorfod sgwennu neu fygu" .
Colli brawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a gweld brawd arall yn dioddef yn sgil colli ei iechyd yn yr un rhyfel a"i hysgogodd i fynd ati i lenydda yn y lle cyntaf.
Cafodd Kate Roberts ei geni a"i magu yng nghanol ardal y chwareli yn Sir Gaernarfon. Meddai ar ddawn anghyffredin i sylwi ar yr hyn oedd o"i chwmpas ym mhentref Rhosgadfan. Dywedodd Saunders Lewis, oedd yn un o"r cyntaf i werthfawrogi ei gwaith, "mae ganddi bâr o lygaid cyflymach na neb arall yng Nghymru".
Er iddi anwesu tafodiaith gyfoethog ei bro a"i hysgrifennu"n fyw, roedd hi wedi cael addysg drwyadl mewn Cymraeg llenyddol wrth draed Syr John Morris Jones a Syr Ifor Williams yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.
Bu"n athrawes Gymraeg yn Ystalyfera ac Aberdar, ond wedi iddi briodi Morris T Williams ym 1928, prynodd hi a"i gŵr Gwasg Gee gan symud i Ddinbych. Wedi i"w gŵr farw ym 1946 rhedodd y busnes ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd arall.
Cyfrannai"n gyson i"r Faner a gyhoeddwyd gan wasg Gee, yn ogystal ag i"r Ddraig Goch, papur newydd Plaid Cymru yr oedd hi"n aelod pybyr ohoni ers y dechrau.
Ym 1958, wedi i Saunders Lewis ei henwebu, derbyniodd anrhydedd brin iawn o gael pensiwn o"r rhestr sifil am ei chynnyrch llenyddol.
Mae ei storïau byrion, a"i nofelau yn weithiau llenyddol o bwys aruthrol. Ceir cofnod dihafal o fywyd fel yr oedd yng nghyfnod prysur y chwareli yn Sir Gaernarfon mewn gweithiau megis "Traed Mewn Cyffion", "Tegwch y Bore", "Y Byw Sy"n Cysgu" a "The yn y Grug".
