
78. Julien Macdonald
Pobl Greadigol (68 o bleidleisiau)
1972 –
"Unben ffasiwn" Merthyr sydd wedi gwneud ffrogiau enwog yn defnyddio ychydig iawn o ddefnydd.
Yn 2003, cyhoeddodd "enfant terrible" Cymreig y byd ffasiwn: "Myfi yw"r unben steil". Gyda"i hoffter am bethau sy"n pefrio, fe grëir y ddelwedd frawychus o gyrch filwyr mewn secwins yn gorfodi Gorllewin Ewrop i blygu iddo. Mewn termau ffasiwn o leiaf, mae Julien Macdonald eisoes wedi cyflawni hynny.
Mae"r un sydd erbyn hyn yn byw bywyd llachar yng nghanol cymeradwyaeth y byd ffasiwn, yn frodor o Ferthyr Tudful. Nid yw honno"n dref sy"n adnabyddus am ei ffasiynau, er ei bod hefyd wedi cynhyrchu Laura Ashley.
Gweithiai tad Julien yn ffatri Hoover. Mae"n cofio ei fam yn edrych yn drwsiadus bob amser. Oddi wrthi hi y mae wedi magu"r hoffter am bopeth sy"n disgleirio. Yn gwrthod plygu i"r ddelwedd nodweddiadol o ddyn ifanc y Cymoedd, dechreuodd Julien wau - hobi, y mae"r teulu i gyd, gan gynnwys ei dad, yn mwynhau.
Roedd cwrs sylfaen blwyddyn yng Ngholeg Celf a Chynllunio Caerdydd yn ddigon i"w argyhoeddi i ba gyfeiriad y dylai fynd. Cafodd radd mewn cynllunio defnydd yn Brighton, cyn gorffen ei hyfforddiant yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.
Pan oedd yn dal yn fyfyriwr, fe ddenodd sylw Karl Lagerfeld a"r gynffon ferlen, tad steil Ewropeaidd, a phennaeth cynllunio ffasiwn Chanel. O"i fflat fechan yn Llundain, yn eistedd ar ei wely sengl, dechreuodd Julien wneud ffrogiau ecscliwsif i Chanel. Erbyn 2001 ef oedd Cynllunydd Prydeinig y Flwyddyn.
Mae ei greadigaethau unigryw yn sicrhau y bydd y sawl sy"n eu gwisgo yn cael sylw"r cyfryngau. Mae wedi llwyddo i wisgo Joely Richardson, Martine McCutcheon a Kylie, i enwi ond tair. Mae ei gynlluniau diweddaraf yn adlewyrchu ychydig fwy o geidwadaeth aeddfedrwydd.
Mae Julien Macdonald, sydd wedi cyfaddef ei fod yn "gomon" yn mwynhau herio cywirdeb gwleidyddol. Mae wedi achosi protestiadau gan ymgyrchwyr gwrth-ffwr, ac wedi peri gofid i"r undebau trwy addo y bydd yn gwneud i staff cabin BA edrych yn "rhywiol".
Mae wedi cael ei ddyfynnu yn dweud "Rydw i"n gwisgo menywod hardd yn unig. Dw i"n gwrthod llawer." Braint unben yw diystyru"r sawl nad yw"n bishyn.
