
24. JPR Williams
Perfformwyr (433 o bleidleisiau)
1949 –
Arwr rygbi, llawfeddyg ac un o"r amaturiaid llwyddiannus olaf ym myd chwaraeon
Beth petai JPR Williams wedi dal ati i chwarae tenis yn lle rygbi? Gan nad yw Cymru erioed wedi cynhyrchu chwaraewr tenis llwyddiannus, mae"n amhosib dyfalu a fyddai wedi cael cymaint o barch gan ei gyd-wladwyr.
Er iddo honni nad oedd yn ddigon da i chwarae"n broffesiynol, nid ar chwarae bach y mae ennill Pencampwriaeth Ieuenctid Wimbledon. Er gwaetha"r fuddugoliaeth honno ym 1966, fe benderfynodd barhau gyda"i astudiaethau meddygol. Roedd yn gallu dal ati i chwarae rygbi, oedd, bryd hynny, yn gêm amaturaidd.
Mae pawb a welodd berfformiadau cyffrous Cymru yn ystod yr 1970au - sef cyfnod gyrfa ryngwladol JPR - yn falch iawn iddo wneud y penderfyniad hwnnw.
Gyda"i sanau o gwmpas ei figyrnau, ei locsyn clust nodweddiadol a"i wallt hir, roedd John Peter Rhys Williams yn un o"r rhai mwyaf adnabyddus ar y meysydd chwarae.
Roedd yn hynod o effeithiol yn yr amddiffyn, yn gwbl gadarn o dan y bêl uchel a druan ag unrhyw un fyddai"n cael eu dal gan daclo grymus a ffyrnig JPR.
Mewn argyfwng, fe fyddai yn y lle iawn ar yr adeg iawn. I"r sawl oedd ar fin sgorio cais ar ôl torri amddiffyn Cymru, byddai ei freuddwyd yn cael ei chwalu"n deilchion eiliadau cyn croesi"r llinell.
Fel sy"n nodweddiadol o chwaraewr amryddawn, roedd hefyd ar gael i gynorthwyo"r blaenwyr os oedd angen. Oherwydd anafiadau, fe chwaraeodd unwaith fel blaenasgellwr ar daith gyda Chymru yn Awstralia.
Rhwng 1969 a 1981, bu JPR yn rhan allweddol o dîm Cymru a enillodd chwe Choron Driphlyg a thair Camp Lawn - bu hefyd yn gapten ar y tîm ym 1979. Fe chwaraeodd yn erbyn Lloegr ar ddeg achlysur, heb golli yr un gêm. Bu"n cynrychioli"r Llewod hefyd ar deithiau llwyddiannus yn Ne Affrica a Seland Newydd.
Gwrthododd fynd ar daith gyda"r Llewod ym 1977 er mwyn canolbwyntio ar ei arholiadau llawfeddygol - roedd yn rhaid i"r prif chwaraewyr bryd hynny boeni am eu bywoliaeth hefyd.
O gofio hynny, fe ellir dadlau mai JPR yw un o"r amaturiaid llwyddiannus olaf i droedio"r meysydd chwaraeon. Roedd yn dal i chwarae i Drydydd Tîm Tondu pan fyddai"r mwyafrif o ddynion o"r un oed yn dewis treulio eu Sadyrnau ar y soffa!
