John Jones

94. John Jones (Jones Y Seryddwwr)

Arloeswyr (55 o bleidleisiau)

1818 – 1898

"Seryddwr y werin bobl" a adeiladodd delesgop enfawr er mwyn edrych ar y blaned Mawrth.

Yn ôl cylchgrawn Cymdeithas Seryddol Cymru ym 1895, byddai llythyrau wedi"u cyfeirio at "Y Seryddwr, Bangor", yn cyrraedd John Jones yn ddidrafferth.

Roedd hyn yn arwydd o amlygrwydd y rhifwr llechi a"r cyn was oedd wedi buddsoddi cymaint o"i amser a"i gyflog mewn astudio seryddiaeth. Roedd hyd yn oed Samuel Smiles - un o"r awdurdodau mwyaf ar Hunan-gymorth - wedi teithio i Fangor i gwrdd â"r gŵr arbennig.

Yn ei lyfr Men of Invention and Industry, mae Smiles yn disgrifio sut yr aeth Jones ag ef, "i"w ystafell fechan i fyny"r grisiau, lle yr oedd ei delesgop adlewyrchol mawr, a gyda chymorth hwnnw, yr oedd wedi gweld, drwy ffenestr y llofft, gap eira"r blaned Mawrth."

Ffrwyth llafur Jones ei hun yn gyfan gwbl bron oedd y telesgop, a elwid ganddo yn Jumbo. Roedd wedi llwyddo, yn hollol annibynnol, i feistroli"r cymhlethdodau oedd yn ymwneud â chynllunio ac adeiladu telesgop. Cafodd y drych adlewyrchol ei gwblhau yn broffesiynol - yr unig beth oedd y tu hwnt i allu John Jones.

O ran Smiles, roedd yn brawf o"i ddadl fod deallusrwydd a chymhelliad yn gallu gorchfygu"r anfanteision o dlodi a diffyg addysg.

Blwyddyn o ysgol yn unig gafodd Jones, cyn dechrau gweithio fel gwas ffarm. Wedyn, bu"n was i weinidog yr efengyl, gan ddarganfod llyfrau am y tro cyntaf. Cafodd ei hudo gan waith seryddol cynnar oedd wedi"i gyfieithu i"r Gymraeg.

Roedd gan Jones ddiddordebau ehangach o lawer na seryddiaeth - dysgodd Roeg a Hebraeg ar ei ben ei hun.

Roedd yn perthyn i ddiwylliant lle mai prin iawn oedd y rhai oedd yn medru"r Saesneg, ac fe ddysgodd Jones yr iaith honno drwy ddarllen rhannau o"r Beibl Saesneg, a"u cymharu â"r fersiwn Cymraeg. Roedd hefyd yn fardd dawnus.

Wrth ei ddisgrifio fel "athrylith", dywedodd gylchgrawn Cymdeithas Seryddol Frenhinol Canada, petai Jones wedi cael dechrau gwell i"w fywyd, fe fyddai, heb amheuaeth yn "Athro yn un o"n prifysgolion mwyaf blaenllaw".

Eich sylwadau chi

Dangosodd yr hyn ellid cyflawni gan rhywun â gweledigaeth real.

Llwyddiant rhyfeddol gan rywun ag ychydig iawn o adnoddau.

Mae John Jones yn arwr ymhlith seryddwyr amaturaidd. Roedd Ioan Bryngwyn Bach yn frodor o Sir Fôn. Ychydig iawn o addysg dderbyniodd, a gweithiodd am rhai blynyddoedd fel gwas fferm. Magodd ddiddordeb mewn seryddiaeth drwy ddarllen "The Solar System," gan Dr. Dick. Roedd yn rhy dlawd i brynu Telesgop, felly dechreuodd ar y gwaith o adeiladu un gan brynu gwydrau o Lerpwl am 4s. 6d.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru