
36. John Frost
Arweinwyr (187 o bleidleisiau)
1784 – 1877
Dyn busnes llewyrchus a drodd yn rebel gan arwain Gwrthryfel Casnewydd. Bu fyw i weld ei amcanion gwleidyddol yn cael eu gwireddu.
Fel Owain Glyndŵr, roedd John Frost yn ddyn cefnog. Daeth ei gwynion am anghyfiawnderau lleol i fod yn rhan o frwydr ehangach o lawer.
Roedd yn deiliwr llwyddiannus a gafodd ffrae gyda"r sefydliad lleol ar ôl dadlau â chyfreithiwr ynglŷn â chynnwys ewyllys ei ewythr. Arweiniodd achos enllib at ei garcharu. Trodd ei brofiad ef yn radical a phan gafodd ei ryddhau ymunodd â mudiad y Siartwyr a oedd yn tyfu"n gyflym.
Roedd y Siartwyr yn ymgyrchu dros hawliau democrataidd sylfaenol sy"n cael eu cymryd yn ganiataol heddiw, ond oedd wedi cael eu hanwybyddu yn Neddf y Diwygio Mawr ym 1832. Dim ond tirfeddianwyr oedd â"r hawl i fod yn aelodau seneddol, gan gau allan y dosbarth gweithio diwydiannol oedd yn tyfu mor gyflym.
Ar ôl rhwyg yn y mudiad, penderfynodd Frost gefnogi Siartwyr y Grym Corfforol a oedd yn barod i ddefnyddio trais i gyrraedd eu nod. Cynddeiriogodd hyn yr Ysgrifennydd Cartref, Arglwydd John Russell, ac ym mis Mawrth 1839 collodd John Frost ei le fel ynad ar y fainc.
Trwy Brydain, ac yn arbennig yn ne Cymru, roedd anniddigrwydd yn berwi dan yr wyneb. Er bod Frost wedi annog peidio â defnyddio trais mewn sawl araith, fe aeth pethau"n waeth pan arestiwyd y siartydd blaenllaw, Henry Vincent.
Cafwyd gorymdaith yng Nghasnewydd gyda Frost yn arwain tair mil o ddynion, y mwyafrif yn lowyr o gymoedd Gwent. Daethant ynghyd ger gwesty Westgate yn y dref, lle y credent fod Siartwyr yn cael eu dal.
Gan eu bod, mae"n debyg, wedi clywed am fwriad y gorymdeithwyr, roedd yr awdurdodau wedi gosod milwyr y tu fewn i"r adeilad. Saethodd y milwyr, gan ladd ugain ac anafu llawer mwy.
Os mai"r nod oedd trechu gwrthryfelwyr Casnewydd er mwyn rhwystro mwy o derfysg mewn ardaloedd eraill o Brydain, bu"n llwyddiant. Collodd Mudiad y Siartwyr stêm yn gyflym, a llusgwyd Frost a"i gyd-arweinwyr o flaen eu gwell.
Er iddo gael ei ddedfrydu i grogi, diberfeddu a chwarteri, ni ddigwyddodd hynny. Gan synhwyro y byddai cyflawni"r ddedfryd yn dwysáu"r sefyllfa oedd eisoes dan gymaint o straen, gorchmynnodd y Prif Weinidog, yr Arglwydd Melbourne, i Frost gael ei alltudio i Awstralia.
Ymhen amser dychwelodd Frost i Brydain. Erbyn iddo farw yn 91 oed, roedd yr holl ddiwygiadau yr oedd y Siartwyr wedi ymgyrchu drostynt wedi cael eu diogelu mewn deddfau.
