
27. John Evans
Pobl Greadigol (352 o bleidleisiau)
1960 –
Awdur radical a chynhyrchydd ffilmiau sy"n croniclo bywyd ôl-ddiwydiannol cymoedd de Cymru.
Mae gan John Evans basport i ardaloedd yng Nghymru sy"n anial diwylliannol - ystadau "sinc" - fel y"u gelwir - cymunedau"r Cymoedd sydd wedi cael eu hanwybyddu gan ffyniant. Mae ei bortreadau yn ddigalon ac yn negyddol hyd at anobaith, ond nid ymwelydd o lenor mohono. Mae"n ysgrifennu o brofiad, oherwydd fe"i ganed yn y Cymoedd ac mae"n dal i fyw yno.
Oherwydd y genhedlaeth y mae"n perthyn iddi, a"i ogwydd naturiol, cynnyrch ffrwydriad cerddoriaeth pync y 70au yw John Evans. Wedi cael ei ysbrydoli, ymunodd a grŵp lleol y Tax Exiles cyn i gwmni recordio annibynnol roi cytundeb iddo dan yr enw "John Marlon". Daeth terfyn ar ei yrfa fel unawdydd cyn iddi ddechrau bron oherwydd iddo gael ei daro gan glwyf y chwaren a effeithiodd arno am gyfnod hir. Newidiodd gyfeiriad ac mae wedi bod yn awdur llawn amser dros y ddeng mlynedd diwethaf.
Mae ei waith yn nhraddodiad gorau awduron y don newydd fel William Burroughs a Kathy Acker - yn llawn ymddiethriad a nihiliaeth, ond eto gydag ymroddiad dwfn ac afieithus bron i ddatgelu"r gwirionedd yn ôl John Evans.
"Mae"r bachgen yn gallu ysgrifennu", meddai papur newydd y South Wales Argus pan gyhoeddwyd ei lyfr cyntaf ym 1994. Ond nid yw John Evans yn cyfyngu ei hun i eiriau yn unig - cafodd How Real ei lansio gan gyflwyniad aml-gyfryngol, ac mae Industria a GBH yn wead o destun, ffotograffau, cerddi a darluniau.
Gan nad yw"r math hwn o waith yn hynod boblogaidd, mae"n gweithio y tu allan i fyd cyhoeddi masnachol. Sefydlodd gwmni cyhoeddi ei hun, Underground Press, er mwyn dosbarthu ei lyfrau. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr am y barcud coch a ddylai apelio at bob un sy"n credu bod gweddill ei waith braidd yn ddiflas.
Ochr yn ochr â"i waith fel awdur, mae John Evans wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau byr ac eitemau nodwedd i deledu ac mae ei fywyd wedi bod yn bwnc sawl rhaglen ddogfen. Mae hefyd yn gweithio ar nifer o gynlluniau diwylliannol ac amgylcheddol yng Nghymoedd y De.
