
19. John Charles
Perfformwyr (769 o bleidleisiau)
1931 –
Un o"r peldroedwyr mwyaf yn hanes Cymru, ac fe ellir dadlau mai ef yw"r gorau o Brydain i chwarae dramor.
Mae lluniau ffotograffwyr 50 mlynedd yn ôl o"r dyn golygus gwylaidd a chydnerth bob amser yn portreadu John Charles fel eilun ffilmiau.
Ond nid yw"r gymhariaeth rhyngddo â David Beckham yn mynd ymhellach na hynny. Nid oedd Charles yn un am ddangos ei hun. Yn syml, ef oedd y canolwr gorau yn y byd, a"r canolwr blaen gorau yn y byd - ar yr un pryd.
Yn anarferol i beldroediwr Prydeinig, mae Charles yn fwy adnabyddus am y pum mlynedd a dreuliodd yn chwarae dramor. Dechreuodd ei yrfa yn 15 oed gyda thîm Dinas Abertawe cyn ymuno a Leeds United oedd yn mynd trwy gyfnod anodd ym 1949.
Daeth pobl i wybod amdano yn gyflym, ac mae"r 42 o goliau a sgoriodd i Leeds yn y tymor 1953-1954 yn dal yn record i"r clwb. Ond pan ymunodd â Juventus yn Rhufain am bris trosglwyddo o £65,000, oedd yn record, dechreuodd ei fywyd ymdebygu i stori allan o gomic Boy"s Own.
Rhwng 1957 a 1962, enillodd Juve dri theitl cynghrair yn ogystal ag ennill un gystadleuaeth Cwpan yr Eidal. Hyd heddiw, mae"r clwb enwog yn cydnabod cyfraniad mawr Charles yn ystod ei gyfnod gydag hwy. Fe"i ystyrir hyd heddiw ymhlith y deg chwaraewr tramor gorau i chware dros Juventus.
Mae"r ffugenw, "Il Buono Gigante", Y Cawr Addfwyn, i"w briodoli i"r ffaith ryfeddol na fu iddo gael rhybudd na"i anfon o"r cae yn y 155 o emau a chwaraeodd i"r clwb. Oherwydd yr urddas a"r parch a ddangosai pan nad oedd ar y cae, daeth yn ffigwr mor boblogaidd fel iddo ddenu carfan gref o ddilynwyr hefyd pan oedd yn canu fel crwner tebyg i Frank Sinatra gan fynd ar daith o gwmpas canolfannau sgïo Gogledd yr Eidal.
Enillodd 38 o gapiau i Gymru, a sgorio 15 gôl. Roedd yn gapten ar y tîm a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan y Byd ym 1958, a"i hyblygrwydd ef oedd un o brif gryfderau"r tîm. Ysgrifennodd ei gyd chwaraewr yn Leeds, Tom Holley unwaith: "Gofynnwyd i Nat Lofthouse pwy oedd y canolwr gorau yr oedd ef wedi chwarae yn ei erbyn, a heb oedi, fe enwodd John Charles. Yn yr un wythnos, gofynnwyd i Billy Wright pwy oedd y canolwr blaen gorau iddo wynebu, ac eto ei ateb oedd John Charles."
