
93. John Cale
Perfformwyr (55 o bleidleisiau)
1942 –
Cyfansoddwr cerddoriaeth arbrofol, ac un o sylfaenwyr grŵp blaengar, The Velvet Underground.
Mae John Cale yn gerddor sy"n meddu ar ddawn anghyffredin. Cafodd ei hyfforddi fel cerddor clasurol ac edmygodd weithiau cyfansoddwyr fel John Cage a LaMonte Young. Ffurfiodd bartneriaeth cyfansoddi caneuon gyda Lou Reed, sydd wedi dylanwadu ar y ffordd y mae bandiau"n cyfansoddi cerddoriaeth roc hyd heddiw. Mae"r gwybodusion hefyd yn nodi bod ei waith cynhyrchu"n yr 1970au cynnar yn ysbrydoliaeth i chwyldro"r roc pync a ddilynodd rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Yn wir, ychydig o gerddorion roc sy"n enwog am eu gallu i chwarae"r fiola. Prinnach fyth yw"r rhai sydd wedi"u geni a"u magu yn Nyffryn Aman. Mae"r naid o Garnant i Manhattan uchaf yn ymddangos yn anhygoel, ond cafodd John Cale ei hun yn ffigwr ganolog yn oriel yr artist pop Andy Warhol, The Factory, oedd yn fagwrfa frwd i gerddoriaeth, celfyddyd a ffasiwn yn Efrog Newydd yng nghanol yr 1960au.
Digwyddodd hynny o ganlyniad i ysgoloriaeth a enillodd i fynd i ysgol haf Cerddorfa Prifysgol Boston yn Tanglewood, ac ar ôl iddo gwrdd ar ddamwain â Lou Reed ffurfiodd y ddau y Velvet Underground.
"Roedd angen i mi fod gyda rhywun oedd yn ysgrifennu caneuon", meddai Cale wrth edrych yn ôl, "rhywun oedd yn gallu ysgrifennu geiriau. "Doedd gen" i ddim syniad sut i wneud hynny. Cerddor clasurol o ddifrif oeddwn i .....Roedd dod o hyd i rywun oedd yn digwydd meddu ar hynny i gyd, a thuedd at fyrfyfyrio yn gwbl annisgwyl"
Er mai blin a byr-hoedlog oedd perthynas Cale a Reed, dyma"r hyn a luniodd dull y Cymro o greu cerddoriaeth. Mae ei yrfa fel unigolyn wedi bod yn gyfres o gydweithrediadau fel perfformiwr a chynhyrchydd. Er enghraifft, ar gyfer y ffilm Y Camgymeriad Gwych, fe gydweithiodd gyda nifer o gerddorion cyfoes amlycaf Cymru gan gynnwys James Dean Bradfield, Catatonia, a"r Super Furry Animals
Yn anarferol, mae ei hygrededd beirniadol wedi parhau drwy gydol ei yrfa. Yn wahanol i John Lennon neu Brian Wilson, mae Cale wedi methu ag ysgrifennu neu berfformio yn y byd masnachol. Mae"n mynnu - "I have no alternative but to be alternative".
