Jimmy Wilde

38. Jimmy Wilde

Perfformwyr (177 o bleidleisiau)

1892 – 1969

Pencampwr byd bocsio a wnaeth enw iddo"i hun fel rhywun oedd yn gallu dyrnu ymhell y tu hwnt i"w bwysau.

Os all mawredd bocswyr gael ei fesur yn ôl nifer y ffugenwau sydd ganddynt, roedd Jimmy Wilde yn un o"r goreuon. Roedd yn cael ei ddisgrifio fel “The Tylorstown Terror”, “The Ghost with a Hammer in his Hand” ac yn amlach na dim - “The Mighty Atom.”

Roedd y bocsiwr pwysau trwm Americanaidd Gene Tunney yn rhyfeddu"n fawr bod gan ddyn mor ysgafn ddyrnau mor nerthol. Fe ddisgrifiodd Wilde yn syml: "Ef oedd y bocsiwr gorau welais i erioed."

Roedd Wilde yn gynnyrch ei gymdeithas yn y Rhondda oedd yn dioddef caledi enbyd pan oedd ar ei dyfiant. Yn blentyn, gweithiodd o dan ddaear yn y glofeydd lleol. Gallai fynd i fewn i"r tyllau oedd yn rhy gyfyng i oedolion gan fod ei gorff mor fain.

Fel y rhan fwyaf o baffwyr ei oes, dysgodd ei grefft yn stondinau bocsio"r ffeiriau lleol, lle byddai hen focswyr garw yn ymladd yn erbyn y rheiny a fentrai eu herio. Yn fuan, y Jimmy Wilde tenau oedd y prif atyniad.

Ymladdodd Wilde yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 16 oed, ac enillodd y teitl Prydeinig ym 1913 yn 21 oed.

Er nad oedd y Cymro yn pwyso mwy nag wyth stôn trwy gydol ei yrfa, roedd ei nerth mor rhyfeddol, fel iddo gael ei wahodd i gymryd rhan mewn ymchwiliadau meddygol.

Collodd ei ornest gyntaf wrth iddo geisio ennill pencampwriaeth Ewrop ym 1915, ond fe ddychwelodd y flwyddyn ganlynol i gipio"r wobr. Fisoedd yn ddiweddarach rhoddodd grasfa i Young Kid Zulu yn yr UDA gan sicrhau mai fe oedd y cyntaf erioed i fod yn Bencampwr diamheuol Pwys Pryf y Byd.

Yn y pendraw roedd yn rhaid iddo ymladd yn erbyn dynion llawer yn drymach nag ef er mwyn cael gornestau. Teithiodd o amgylch America yn curo gwrthwynebwyr lu o adrannau pwysau uwch nag ef.

Erbyn iddo amddiffyn ei deitl fel Pencampwr y Byd ym 1923 nid oedd wedi ymladd am ddwy flynedd. Collodd i Pancho Villa yn Efrog Newydd ar ôl dioddef anafiadau mor ddrwg o gwmpas ei lygaid, fel nad oedd yn gallu gweld erbyn diwedd yr ornest fythgofiadwy.

Daeth â diwedd ar yrfa anhygoel. Cymerodd Wilde ran mewn dros fil o ornestau a heblaw am lond dwrn ohonynt, cerddodd allan o"r cylch bocsio fel enillydd bob tro.

Eich sylwadau chi

Gwarth arnom ni am esgeuluso’r paffiwr pwys am bwys gorau erioed.

Yn syml, paffiwr pwysau pryf gorau mae’r byd erioed wedi’i weld ac yn ymgeisydd ar gyfer y paffiwr gorau erioed.

Heb os ef yw’r paffiwr pwys am bwys gorau erioed.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru