
17. James Dean Bradfield
Perfformwyr (790 o bleidleisiau)
1969 –
Canwr pwerus a phrif gitarydd y band roc Manic Street Preachers.
Mae"n bosibl y buasai un o fandiau roc mwyaf llwyddiannus Cymru, y Manic Street Preachers, wedi bod yn ddim mwy na thegan dros dro i"r wasg gerddorol ar ddechrau"r 90au oni bai am ddawn yr arwr anfodlon yn eu mysg.
Ganed James Dean Bradfield yn y Coed Duon, yng Ngwent ym 1969. Yn ystod ei arddegau, roedd yn aelod o grŵp clos o eneidiau cytun; Nicky Wire, Richey Edwards a"i gefnder Sean Moore. Yr hyn a unodd y grŵp oedd cariad at gerddoriaeth, gwleidyddiaeth, celf a"r ddawn ddrygionus i dynnu sylw atynt eu hunain.
Yn ystod amser rhydd yn yr ysgol byddai Bradfield a Wire yn cyfnewid geiriau caneuon wedi"u sgriblan gan feddwl eu bod yn creu y clasur roc llwyddiannus nesaf. Ymroddiad Bradfield i ddysgu"r gitâr ar ben ei hun oedd yr hyn a ddaeth â pheth credinedd i"w huchelgais.
Llamodd y Manic Street Preachers i"r amlwg ar ddiwedd yr 1980au. Yn gyflym iawn roeddent wedi ennill sylw y wasg gerddorol am eu bod i"r gwrthwyneb i arddull gerddorol a gweledol y cyfnod. Roedd hyn yn cael ei amlygu gan ganu cynhyrfus a safiad gitâr roc ymosodol Bradfield.
Er hynny, delwedd pync androgynaidd a syniadau dadleuol Edwards a Wire oedd prif nodweddion gwerthiant y Manics ond wrth i"r band ennill poblogrwydd, datblygodd Bradfield i"w rôl fel cerddor di-fai a chanwr cynyddol gwefreiddiol.
Roedd yr albwm a ddaeth â"r llwyddiant mawr cyntaf iddynt, sef Everything Must Go, a ryddhawyd ym 1996, yn manteisio ar ei gryfderau, a"i gyffyrddiad melodaidd sicr oedd yn gyfrifol am lwyddiant This Is My Truth, Tell Me Yours ym 1998 - yr albwm cyntaf o"u heiddo i werthu miliwn o gopïau ynghyd â chyflwyno eu sengl Rhif Un cyntaf i gyrraedd sef If You Tolerate This Then Your Children Will Be Next.
Arwydd o"i ddylanwad cynyddol ar waith y band oedd y geiriau a ysgrifennodd ar gyfer chweched albwm y band, Know your Enemy, a"r sengl Ocean Spray yn arbennig a oedd yn sôn am farwolaeth ei fam o ganser.
