
81. Iolo Morgannwg
Arloeswyr (63 o bleidleisiau)
1747 – 1826
Ysgolhaig o fri a ffugiwr mwyaf Cymru a ddyfeisiodd "Gorsedd y Beirdd" a"i seremoni sy"n parhau i ddenu miloedd hyd heddiw.
Fe"i ganed â"r enw Edward Williams, yn Llancarfan, ger y Bontfaen, a threuliodd y rhan fwyaf o"i oes fel saer maen yn ei sir enedigol ac yn Lloegr. Ysgrifennodd 14 o gywyddau a"u priodoli i Dafydd ap Gwilym gan eu hanfon i gael eu cynnwys mewn cyhoeddiad o waith y cawr hwnnw.
Y mwyaf anhygoel o"i greadigaethau oedd Gorsedd y Beirdd. Mynnodd, yn ei awydd i ddyrchafu ei sir enedigol, oedd â"i Chymreictod yn cael ei dirmygu gan feirdd y Gogledd - bod beirdd Morgannwg wedi glynu at fesurau oedd wedi diflannu o bobman arall yng Nghymru, a"u bod yn dod at ei gilydd mewn Gorsedd nid mewn cyfarfod. Clymodd hynny wrth hanes y Derwyddon gan honni bod yr olyniaeth wedi parhau"n ddi-dor ym Morgannwg o"r oes cyn Crist hyd at ei ddyddiau ef.
Ym 1792, llwyddodd i ddarbwyllo rhai o Gymry Llundain i gynnal Gorsedd yn Primrose Hill.
Nid oedd croeso i"r Orsedd yng Nghymru am flynyddoedd, ond ym 1819, yng Nghaerfyrddin, llwyddodd i"w chysylltu â"r Eisteddfod am y tro cyntaf.
Roedd yn Undodwr. Dechreuodd sawl busnes, ond methiant fu bob un a threuliodd gyfnod yng ngharchar Caerdydd am fod yn fethdalwr.
Dechreuodd gymryd lodnwm (ffurf ar opiwm) pan oedd yn ifanc, a bu"n gaeth iddo am weddill ei fywyd, a hwnnw sydd i"w feio am ei ffordd o feddwl a"i ddychymyg byw.
Bu farw yn ei gartref yn Nhrefflemin, Bro Morgannwg. Gadawodd fwthyn yn llawn at y nenfwd o lawysgrifau ar ei ôl sydd wedi achosi cur pen i ysgolheigion byth wedyn.
Ond nid ar yr athrylith o ysgolhaig hwn a"r bardd rhamantaidd swynol yr oedd y bai am lwyddo i dwyllo ysgolheigion am ganrif wedi"i farwolaeth.
