
22. Ioan Gruffudd
Perfformwyr (464 o bleidleisiau)
1973 –
Actor ffilm a theledu sydd wedi llwyddo yr ochr draw i fôr Iwerydd yn sgil ei ran yn un o"r ffilmiau mwyaf llwyddiannus erioed yn ariannol.
Ynghyd â"r sgiliau y gellir eu cymryd yn ganiataol gan rywun sydd â gradd o RADA, mae"r ffaith ei fod yn olygus o gymorth ac mae"r elfen o garisma ar-sgrin yn hanfodol. Dyma"r priodoleddau sydd wedi arwain rhai sylwebyddion i ddatgan bod Ioan Gruffudd yn un o"r perfformwyr ifanc Prydeinig mwyaf addawol ei genhedlaeth.
Wedi ei eni a"i fagu yng Nghaerdydd, dechreuodd ei yrfa fel actor yn chwarae rhan yn yr opera sebon Pobol y Cwm. Mae wedi parhau i weithio gartref a thu hwnt ers iddo raddio ym 1995. Yn Solomon a Gaenor, pan oedd ef a Nia Roberts yn chwarae"r prif rannau, defnyddiwyd Cymraeg, Saesneg ac Iddewig yn y ddeialog, ac fe enwebwyd y ffilm fel y Ffilm Dramor orau yn Oscars 2000.
Ond allwedd ei lwyddiant yw ei uchelgais i lwyddo yn yr UDA. Yn sgil cymryd mantais llwyr o"i ran fach yn Titanic, fel Harold Godfrey Lowe, y swyddog a aned yng Nghonwy, mae wedi ymddangos yn y ddrama deledu Americanaidd boblogaidd, Horatio Hornblower, ac mewn nifer o gynhyrchiadau wedi eu hariannu yn yr UDA. Mae hefyd wedi denu cymeradwyaeth beirniaid am ei ran yn Warriors, y ddrama deledu Brydeinig oedd wedi ei seilio ar swyddogaeth lluoedd cadw"r heddwch ym Mosnia.
Ond ar ddechrau ei yrfa fel hyn, mae Gruffudd yn gwybod y gall y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant fod yn ddim mwy nag anhawster i ynganu enw wrth ei glywed am y tro cyntaf. Er hynny, yn wahanol i lawer o"i flaen, mae"n ymddangos yn gyndyn i aberthu ei hunaniaeth er mwyn llwyddiant prif ffrwd.
""Dw i"n benderfynol o beidio â cholli fy enw", meddai yn herfeiddiol, ""Dyw e ddim wedi bod o gymorth i fy ngyrfa nag yn rhwystr chwaith. Dyna"r hyn ydwyf. Mae fy niwylliant a"m hetifeddiaeth yn gyfoethog iawn. Beth os ydi hi"n anodd i bobl ei yngan? Rydym i gyd wedi dysgu sut i ddweud Schwarzenegger".
