Ian Rush

58. Ian Rush

Perfformwyr (135 o bleidleisiau)

1961 –

Arwr pêl droed Cymru a Lerpwl a enillodd fwy o fedalau ac a sgoriodd fwy o goliau nag unrhyw chwaraewr arall ei gyfnod.

Yn ei gartref yng Nghilgwri, mae yna gwpwrdd tlysau yn gwegian o dan bwysau ei gynnwys. Mae"n adlewyrchu gyrfa chwaraewr a dorrodd bob record sgorio yng nghystadleuaeth Cwpan yr FA, oedd cystal â record Geoff Hurst yng Nghwpan y Gynghrair. Enillodd bum medal ym Mhencampwriaeth y Gynghrair, un Cwpan Ewropeaidd ac Esgid Aur.

Ond pan dalodd Bob Paisley £350,000 i glwb Caer am Ian Rush ym 1980, (y pris trosglwyddo uchaf am chwaraewr yn ei arddegau), wrth ei weld yn ymdrechu yn yr ail dîm am y rhan fwyaf o"r flwyddyn, heb fawr o lwyddiant, roedd yn ymddangos bod rheolwr Lerpwl wedi gwneud camsyniad annodweddiadol o ddrud.

Nid oes neb yn gwybod yn iawn beth achosodd Rush, a anwyd yn Llanelwy, i ddatblygu i fod yn beiriant sgorio o"r safon uchaf, ond unwaith iddo ddechrau, nid oedd pall arno. Yn hynod o fain, gyda chyflymdra anhygoel, a greddfau miniog, roedd y gallu ganddo hefyd i ganolbwyntio ar ddod o hyd i lwybr unionsyth i"r gôl yn hytrach na gwau"n urddasol trwy amddiffyn y gwrthwynebwyr.

Rhwng 1986 -1988, treuliodd Rush ddau dymor i ffwrdd o Anfield yn chwarae i Juventus. Methodd â threchu arddull amddiffyn dwfn yr Eidalwyr ac yn wahanol i Gymro chwedlonol arall a chwaraeodd i Juventus, John Charles, nid oedd yn gartrefol yn byw yn yr Eidal.

Yn ôl adroddiadau ar y pryd, roedd yn gofyn am i becynnau bwyd yn cynnwys Ffa Pob Heinz gael eu hanfon ato, ac fe fydd yn difaru am byth am ei ddisgrifiad anfarwol o"r Eidal: "Mae"n union fel gwlad estron."

Ta waeth, dechreuodd y goliau lifo unwaith eto pan ddychwelodd i Lerpwl ac fe gafodd wyth mlynedd ychwanegol o fwynhad wrth greu penawdau newyddion cyn iddo dreulio ysbeidiau byr gyda Leeds, Newcastle, Sheffield United a Wrecsam.

Yr unig un oedd yn cystadlu ag ef am glod tudalennau cefn y papurau newydd, oedd Rhif 9 tîm Lloegr, sef Gary Lineker, ond nid oes gan Mark Lawrenson, cyn-amddiffynwr Lerpwl ac Iwerddon, unrhyw amheuaeth pwy oedd y chwaraewr orau: "Roedd Rushie yn well na Lineker oherwydd, yn ogystal â bod yn sgoriwr rhyfeddol, roedd hefyd yn aruthrol o weithgar."

Mae ei record sgorio dros Gymru yn dangos pa mor fawr oedd ei ddawn, - record arall o 28 gôl mewn 73 ymddangosiad. Ei gôl fwyaf cofiadwy oedd honno a enillodd y gêm i Gymru yn erbyn tîm nerthol Gorllewin Yr Almaen yn rownd Rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop ym 1991.

Eich sylwadau chi

Torrwr record y byd pan ddaw hi i sgorio goliau, y gorau o blith ei genhedlaeth.

Oherwydd roedd yn chwaraewr gwych dros Lerpwl a Chymru, ac mae'n parhau i ddal record sgorio goliau.

Sgoriwr goliau gorau erioed.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru