
43. Hwyel Dda
Arweinwyr (164 o bleidleisiau)
circa 890 AD – circa 950 AD
Brenin Cymru o ddechrau"r 10fed ganrif a sefydlodd y gyfundrefn gyfreithiol ffurfiol gyntaf.
Hywel Dda yw un o Gymry mwyaf nodedig yr oesoedd cynnar - cyfnod lle mae ei hanes yn aml yn aneglur. Roedd yn ŵyr i Rhodri Mawr a thua 900 OC etifeddodd frenhiniaeth gymharol fechan yn y gorllewin, sef Seisyllwg. Erbyn ei farwolaeth hanner canrif yn ddiweddarach, roedd ei diriogaeth yn ymestyn i gynnwys ein Cymru fodern ymron i gyd.
Ei orchest fwyaf oedd creu cyfundrefn gyfreithiol ffurfiol gyntaf Cymru. Fe barhaodd "Cyfreithiau Hywel Dda" i fod yn gonglfaen llywodraeth a diwylliant Cymru am ganrifoedd, ac yn rym i uno gwlad oedd yn aml yn cael ei rhwygo gan gecru ac anghydfod chwerw.
Er hynny, nid Hywel ei hun oedd awdur y cyfreithiau. Yn ôl y sôn, tua 930 OC, daeth â chriw o ŵyr doeth o bob cwr o Gymru ynghyd yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Benfro. Yno, nodwyd yr hawliau a dyletswyddau traddodiadol - rhai ohonynt eisoes yn ganrifoedd oed - gan eu cyfundrefnu am y tro cyntaf.
Mae dogfennau cyfreithiol a ddrafftiwyd yn ôl "Cyfreithiau Hywel Dda" yn dal ar gael o hyd. Un elfen nodedig o"r cyfreithiau arbennig hyn yw"r statws cyfreithiol a roir i fenywod a phlant. Yng ngwledydd eraill Ewrop, roedd menywod yn cael eu cyfrif yn ddim byd mwy nag eiddo dynion - statws a barhaodd am ganrifoedd.
Mae"r ffaith hon o gymorth i esbonio pam fod Hywel Dda yn apelio at genedlaethau ar ôl ei ddydd. Er hynny, mae rhai haneswyr wedi amau a oedd Hywel mor "Dda" a hynny. Mae tystiolaeth ar gael i"r brenin ifanc orchymyn lladd ei frawd yng nghyfraith, Llywarch, er mwyn iddo gael rheolaeth dros Ddyfed. Roedd ei gysylltiadau agos â choron Lloegr hefyd yn codi amheuon ymhlith rhai o"i gyfoeswyr.
Fel yr ysgrifenna John Davies yn ei Hanes Cymru, "Yn oes Hywel, gerwindeb yn hytrach na harddwch cymeriad oedd yr anghenraid wrth gydio teyrnas wrth deyrnas"
Mae"n ymddangos bod gerwinder yn nodweddu cymeriad Hywel Dda, yn ogystal â"r daioni mae hanes yn ei briodoli iddo.
