Howell Harris

69. Howell Harris

Meddylwyr (94 o bleidleisiau)

1714 – 1773

Sylfaenydd Methodistiaeth Cymreig a"r "penboethyn mawr olaf".

Cyfrannodd Howell Harris, oedd yn fwy na dim ond arloeswr Methodistiaeth, at ddiwylliant ehangach o amrywiaeth crefyddol sy"n parhau hyd heddiw.

Trodd Harris, oedd yn ysgolfeistr a dyddiadurwr awchus, at Fethodistiaeth ar ôl iddo weld y goleuni wrth wrando ar bregeth yn yr eglwys. Daeth yn bregethwr crwydrol tanllyd, yn efengylu ymhlith trigolion pentrefi a threfi canolbarth a de Cymru. Roedd William Williams Pantycelyn, y Pêr Ganiedydd, ac awdur cannoedd o emynau, yn un o"i ddilynwyr.

Roedd Cymru yn dir ffrwythlon i"r anghydffurfwyr egniol -"Y Diwygwyr" fel y caent eu hadnabod. Yn cynnig rhywbeth gwahanol i"r Eglwys Anglicanaidd, roedd taenu"r efengyl Fethodistaidd yn cael ei hwyluso oherwydd anallu"r arweinwyr Anglicanaidd i siarad Cymraeg - oedd yn dal i fod yn iaith trwch y boblogaeth.

Er hynny, roedd herio"r drefn gydnabyddedig yn gallu ennyn gelyniaeth y dorf. Roedd angen i Harris a"i gyd-Fethodistiaid fod yn ddewr iawn i barhau â"u cenhadu yn wyneb bygythiadau a thrais go iawn. Ym 1740, cafodd "Y Merthyr Methodistaidd", William Seward, ei labyddio yn y Gelli Gandryll.

Yn ddyn penderfynol oedd yn arddel cred angerddol, gallai brwdfrydedd Harris hefyd fod yn faen rhwystr, ac nid oedd ganddo fawr i"w ddweud wrth y sawl oedd yn anghytuno ag ef. Roedd ei berthynas glos â Madam Sidney Griffith, a hawliodd ei bod yn "Broffwydes", hefyd yn destun siarad annifyr.

Ei ystyfnigrwydd fu"n rhannol gyfrifol am yr "Ymraniad Mawr" ymhlith Methodistiaid Cymru ym 1750 ac a ynysodd Harris a"i orfodi i newid cyfeiriad. Fe fyddai"r "Teulu", y gymuned grefyddol a sefydlodd yn y pentref yn Sir Frycheiniog lle cafodd ei eni, yn datblygu i fod yn enghraifft gref o ddiwygiad crefyddol yn mynd law yn llaw â thwf economaidd.

Roedd Trefeca yn lle bywiog a diwyd, oedd yn cynnal ei gwasg ei hun. Dyfeisiodd Harris beiriannau amaethyddol, a datblygodd ddulliau ffermio newydd. Heddiw, mae Trefeca yn gartref i amgueddfa, yn ganolfan gynadledda ac yn gofeb i"w sylfaenydd egniol.

Daeth mwy nag ugain mil o bobl i angladd Harris oedd yn dyst o"r dilyniant eang a hawliai. Yn y pen draw, arweiniodd y diwylliant anghydffurfiol yr oedd ef yn ymgorfforiad ohono, at ddatgysylltiad yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ym 1912.

Eich sylwadau chi

Cymro gorau’r 18fed ganrif.

Drwyddo ef y dechreuodd yr Adfywiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif, digwyddiad a newidiodd fywyd y genedl. Arweinydd dynamig, pregethwr pwerus a threfnydd trwyadl, mae’n haeddu gael ei gynnwys yn y 100 uchaf.

Ysgrifennodd ddyddiaduron ar gefn ceffyl mewn cod yn y llawysgrifen waethaf a welwyd erioed.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru