Henry Tudor (VII)

53. Harri VII (Harri Tudur)

Arweinwyr (142 o bleidleisiau)

1457 – 1509

Pennawd: Brenin Lloegr a aned yng Nghymru a drechodd Richard III ym Mosworth i sefydlu Llinach Frenhinol y Tuduriaid.

Yn ei ddrama deledu Bus to Bosworth, mae Kenneth Griffith yn peintio darlun hudolus o Harri Tudur fel yr arweinydd a alwodd dynion Cymru ynghyd dan faner y Ddraig Goch i orchfygu"r cas ŵr Richard III. Dial oedd y Cymry, mae"n debyg, oherwydd fod un brenin Lloegr ar ôl y llall wedi"u sarhau dros y ddwy ganrif flaenorol.

Er iddo gael ei eni yng Nghastell Penfro, dim ond chwarter Cymro oedd Harri mewn gwirionedd. Roedd yn hawlio coron Lloegr oherwydd cysylltiadau ei fam â Thŷ Lancastr, a oedd wedi bod yn brwydro yn erbyn yr Iorcwyr cyn i Harri gael ei eni.

Pan laniodd Harri yn Dale yn Sir Benfro ym 1485, roedd ei fyddin yn cynnwys herwfilwyr Ffrengig a chyd alltudion o Gaerhirfryn yn bennaf. Er bod rhai uchelwyr Cymreig wedi"i gefnogi ar ei gwrs drwy Gymru, aros yn ddiduedd wnaeth eraill.

Roedd ei fuddugoliaeth dros Richard III - y dihiryn Shakespearaidd oedd wedi disodli"r Edward V 12 oed - ymron yn drychineb i Harri. Safodd y teulu grymus Stanley o Ogledd Cymru o"r neilltu tan iddynt fod yn siŵr bod Harri ar y blaen.

Roedd yn wers na anghofiodd Harri ar ôl iddo gael ei goroni"n Frenin Lloegr. Aeth ati i gwtogi ar bŵer yr uchelwyr. Roedd yn ddigon craff i briodi Elizabeth o Iorc, gan roi diwedd ar yr ymgecru oedd yn achosi cymaint o rwyg, a sicrhau na fyddai"r olyniaeth Duduraidd yn cael ei herio.

Er nad oedd eu hesgyniad i goron Lloegr yn golygu bod y Cymry wedi cymryd drosodd yn llwyr, yn ddiau, rhoddodd y Tuduriaid derfyn ar y darostyngiad yr oedd Cymru a"i phobl wedi dioddef ers teyrnasiad y Plantagenetiaid.

Yn ôl Owen M Edwards: "cafodd y Cymry freintiau cenedl gyfartal, ac roeddent yn fodlon ystyried eu hunain fel y trechaf."

Eich sylwadau chi

Daeth yn Frenin Lloegr a llwyddodd i wneud un o’r teyrnlinau gorau yn rhan o Gymru.

Fe’i ganed ym Mhenfro, casglodd fyddin ynghyd yng Nghymru, trechodd Richard III ym Mosworth, gan ddod â Rhyfeloedd y Rhosynnau i ben, daeth â heddwch a ffyniant i’r deyrnas, gwellodd gyllid y genedl a statws rhyngwladol, gan ddechrau brenhinlin gorau Lloegr a Chymru.

I bob pwrpas daeth â rhyfeloedd y rhosynnau i ben, creodd rhagredegydd i’r senedd bresennol ac yn gyffredinol rhoddodd y rhan fwyaf o’r deddfau a’r rheolau yr ydym yn eu defnyddio hyd heddiw.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru