Hedd Wyn

37. Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans)

Pobl Greadigol (178 o bleidleisiau)

1887 – 1917

Prifardd y "Gadair Ddu" a gafodd ei anfarwoli yn y ffilm a enwebwyd ar gyfer Gwobr Oscar.

Cafodd Hedd Wyn ei eni yn Ellis Humphrey Evans ar fferm yr Ysgwrn yn ardal Trawsfynydd, Meirionnydd lle y bu"n helpu ei dad ar ôl gadael ysgol. Ymddiddorai"n fawr mewn barddoniaeth pan oedd yn ifanc iawn, ac roedd yn gystadleuydd brwd mewn eisteddfodau.

Roedd Hedd Wyn yn un o"r 280,000 o Gymry a ymunodd â"r Lluoedd Arfog yn y Rhyfel Mawr (1914 - 1918), sef 13.82% o boblogaeth y wlad. 13.02% oedd canran yr Alban, a 13.3% o Loegr aeth i ymladd.

Yn gynnar ym 1917 ymunodd y bardd â"r Ffiwsilwyr Cymreig, a hwyliodd i Ffrainc ym mis Mehefin. Ymhen mis roedd wedi cael ei ladd ym mrwydr Pilken Ridge.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym mis Medi. Yn seremoni"r Cadeirio, cyhoeddodd yr Archdderwydd Dyfed mai awdur yr awdl Yr Arwr oedd enillydd y gadair, ond na fuasai"n cael ei gadeirio am ei fod wedi ei ladd ar faes y gad. Gorchuddiwyd y gadair â lliain du, a mawr oedd galar y dorf.

Dywed y Prifardd Alan Llwyd mai "hon efallai yw awdl fwyaf uchelgeisiol yr Eisteddfod yn yr 20fed Ganrif".

Roedd sŵn terfysg a chyffro yn ei gerddi cyn 1914, a llawer o sôn am arswyd rhyfel. Mae ganddo un yn dwyn y teitl Rhyfel. Yn ôl D. Tecwyn Lloyd yn ei gyfrol 1987, Llên Cyni a Rhyfel mae"n "un o ganeuon mawr ein canrif ni a"r mwyaf o holl ganu rhyfel ein cyfnod". Mewn dwy linell, mae"n crynhoi ofnadwyaeth y brwydro yn y ffosydd yn y Rhyfel Mawr: -

"A gwaedd y bechgyn lond y gwynt/A"u gwaed yn gymysg efo"r glaw."

Ym 1992, cynhyrchwyd ffilm ynglŷn â stori Hedd Wyn, gydag Alan Llwyd yn ysgrifennu"r sgript, a Paul Turner yn cyfarwyddo. Enillodd sawl gwobr, a chafodd ei henwebu am Wobr Oscar ym 1993 yn y categori Ffilm Dramor.

Mae Hedd Wyn yn cael ei weld fel un oedd yn cynrychioli"r genhedlaeth goll a allai fod wedi cyfoethogi cymaint ar ein llenyddiaeth ni a bywyd y genedl yn gyffredinol, petaent wedi cael byw.

Eich sylwadau chi

Am yr hyn allai fod, meddyliwch am hynny.

Barddoniaeth ryfeddol.

Roedd yn wastad yn bwrw’r hoelen ar ei phen ac roedd ymhlith miloedd a ymladdodd dros ei wlad, er nad oedd yn credu mewn rhyfel.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru