
4. Gwynfor Evans
Arweinwyr (1928 o bleidleisiau)
1912 –
Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru a orfododd Margaret Thatcher i ailystyried sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Mae Gwynfor Evans yn perthyn i griw dethol o bobl a heriodd Margaret Thatcher ac ennill yn ei herbyn. Cafodd ei gynddeiriogi wedi iddi dorri ei gair ynglŷn â sefydlu S4C ym 1980 a bygythiodd newynu i farwolaeth. Roedd hynny"n ddigon i beri i"r "Ddynes Haearn" newid ei chân am unwaith.
Fel ymgyrchydd diflino ar faterion fel yr iaith a hunaniaeth ddiwylliannol, digon annisgwyl oedd cefndir Gwynfor. Roedd yn fab i berchennog siop adrannol yn y Barri, tref y dociau yn y de, a ddysgodd Gymraeg pan yn oedolyn.
Yng ngholeg y Brifysgol Aberystwyth y daeth gwleidyddiaeth Gwynfor Evans i"r amlwg. Sefydlodd gangen Plaid Cymru, a oedd yn blaid ymylol ar y pryd, a oedd yn cael ei chysylltu"n bennaf ag ymgyrchoedd uniongyrchol a argymhellwyd gan yr awdur a"r ysgolhaig Saunders Lewis. Fel Lewis, roedd Gwynfor yn heddychwr a wrthododd wasanaethu"n yr Ail Ryfel Byd.
Ym 1945, daeth yn Llywydd ar y blaid, a dechreuodd ei ymgyrch yn erbyn boddi pentref Cwm Celyn ger y Bala - cynllun a fyddai"n darparu dŵr i Lerpwl. Er i"r ymgyrch fod yn aflwyddiannus, bu"n fodd i amlygu"r bygythiad cynyddol i gymunedau Cymraeg a"r iaith ei hunan.
Daeth ei awr fawr ym 1966 pan alwyd isetholiad yng Nghaerfyrddin. Yn gwbl annisgwyl, enillodd Gwynfor Evans a Phlaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol.
Dangosodd ganlyniad Caerfyrddin fod Plaid Cymru yn awr yn rym gwleidyddol pwysig. Blwyddyn yn ddiweddarach pasiwyd y Ddeddf Iaith gyntaf gan y llywodraeth Lafur. Er iddi fethu â chreu argraff ar y rhan fwyaf o ymgyrchwyr, caniataodd defnydd y Gymraeg mewn llysoedd barn ac mewn gweinyddiaeth. Ym 1993 pasiwyd deddf arall a arweiniodd at greu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu wedi canrifoedd o ddirywiad. Gall Gwynfor Evans hawlio rhan o"r clod am hynny.
