
79. Gwen John
Pobl Greadigol (68 o bleidleisiau)
1876 – 1939
"Arlunydd bach Duw" ac awen Rodin
Er iddi fod yn ei gysgod am ddegawdau, nid oedd bywyd Gwen John fymryn llai lliwgar nag un ei brawd, yr arlunydd Augustus ac fe gyflawnodd hi gymaint ag ef hefyd. Roedd ganddi berthynas agos iawn â sawl cymeriad blaenllaw ym myd artistig "fin de siécle Paris" (Paris ar ddiwedd y ganrif), a gadawodd gasgliad o weithiau sydd wedi"u cynnwys yn rhai o orielau mwyaf y byd.
Tra roedd Augustus yn gymeriad cydnerth ac ymladdgar, roedd Gwen yn aml yn fewnblyg ac roedd arni, yn afresymol bron, ofn dieithriaid. Mae"r agwedd feddylgar yma at fywyd yn cael ei hadlewyrchu yn ei gwaith. Am fod ei chysylltiadau personol mor angerddol o ddwys, roedd hi - o safbwynt y cyfnod o leiaf - yn fenyw anghonfensiynol iawn.
Ganed Gwen yn Hwlffordd yn Sir Benfro, a dilynodd Augustus i Ysgol Gelf Slade yn Llundain. Ar ôl graddio, aeth i weithio am gyfnod byr gyda"r hynod ffasiynol James Whistler ym Mharis, a bu"n astudio yn ei Académie Carmen. Roedd hi eisoes yn datblygu ei harddull fewnsyllgar ei hun.
Pan ddechreuodd Augustus, yn y steil bohemaidd go iawn, gael perthynas y tu allan i briodas â Dorelia MacNeil, rhyddhaodd Gwen MacNeil o"i afael trwy fynd â hi i"r cyfandir. Mae"n debyg eu bod wedi bwriadu cerdded i Rufain, ond nid aethant ymhellach na Ffrainc. A dyna wedyn, lle treuliodd Gwen y rhan fwyaf o"i hoes.
Ym Mharis unwaith eto, cwympodd mewn cariad â"r cerflunydd Ffrengig mawr, Auguste Rodin. Er bod 33 o flynyddoedd o wahaniaeth rhyngddynt, roedd ei pherthynas â Rodin yn obsesiynol, a hi oedd ei fodel ar gyfer ei gerflun Awen Whistler. Roedd hi hefyd yn agos at y bardd Almaenig, Rainer Maria Rilke, ysgrifenyddes Rodin ar y pryd.
Treuliodd ddiwedd ei hoes yn Dieppe yn Llydaw - ardal yr oedd hi wedi ymweld â hi sawl tro, ac a oedd yn ei hatgoffa o dirwedd garw arfordir Sir Benfro, ei sir enedigol. Mae"n ymddangos iddi fynd yno yn unswydd i farw, gan fynd â chopi o"i hewyllys gyda hi, a chyfarwyddiadau ynglŷn â"i chladdu.
