
85. Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis)
Meddylwyr (60 o bleidleisiau)
1146 – 1223
Ysgolhaig a chlerigwr, a ddylanwadodd, drwy ei waith, ar y ffordd roedd pobl yn edrych ar Gymru am ganrifoedd.
"Cenedl a fyddai"n anorchfygol pe bai"n anwahanadwy", meddai Gerallt Gymro yn un o"i ddatganiadau enwocaf am y Cymry. Wyth gan mlynedd ar ôl i"r geiriau hynny gael eu hysgrifennu, mae yna dinc o wirionedd yn perthyn o hyd i"r disgrifiad o genedl sydd wedi ei rhannu gan iaith, diwylliant a thirwedd.
Fe"i ganwyd yng Nghastell Maenorbŷr yn Sir Benfro, ac roedd yn adnabod Sir Benfro"n iawn, ac fe wyddai"n iawn am y rhaniadau hynny, oherwydd fod ei dad, o deulu"r de Barrys, yn dod o gefndir Normanaidd, a"i fam yn hanu o deulu bonheddig Cymreig oedd yn perthyn i linach frenhinol y Deheubarth. Arglwyddi Normanaidd oedd yn teyrnasu ar wastatir de a gorllewin Cymru, tra roedd y tywysogion brodorol yn cweryla dros y gweddill.
Roedd y cefndir hwn, a"r ffaith iddo gael hyfforddiant eglwysig soffistigedig ym Mharis, yn golygu bod Gerallt yn dra chymwys i ysgrifennu am Gymru er budd ysgolheigion Lladin eraill yn Ewrop. Ynghyd â Sieffre o Fynwy, fe gyflwynodd ddelwedd o wlad ddiwylliannol, oedd cyn hynny, yn cael ei hystyried fel rhywle gwyllt ac anwaraidd.
Er iddo ystyried ei hun uwchlaw"r Cymro cyffredin, yr oedd yn arddel ei waed Cymreig, ac o"r herwydd, roedd ei ddisgrifiadau o"r bobl a"r llefydd, ar y cyfan, yn ddigon caredig. Mewn gwirionedd, roedd elfen o"r sbinddoctor canoloesol yn perthyn iddo.
Er enghraifft, yn Descriptio Cambriae, dyma sut mae"n cyfeirio at ddoniau canu corawl y Cymry: "Yn eu cyngherddau cerddorol, nid ydynt yn canu mewn unsain fel trigolion gwledydd eraill, ond yn hytrach mewn nifer o leisiau gwahanol. Byddwch yn clywed gymaint o wahanol rannau a lleisiau ag sydd yna o berfformwyr, ac yna, byddant yn uno mewn un alaw drefnus."
Yn wir, yr oedd Gerallt yn cael ei ystyried yn rhy Gymreig o lawer gan rai o"r bobl bwerus o"r tu allan. O"r herwydd, cafodd ei uchelgais i fod yn Esgob T*#375; Ddewi ei rhwystro droeon gan Gaergaint, wrth i ymgeiswyr mwy dibynadwy gael eu hordeinio yn ei le.
Digon pryfoclyd fyddai awgrymu bod modd cymharu hyn â phenodiadau mwy diweddar yng Nghymru, ond mae bywyd Gerallt, a llawer o"i waith yn dal i fod yn iasol berthnasol yn y Gymru sydd ohoni heddiw.
