
16. Evan Roberts
Meddylwyr (816 o bleidleisiau)
1878 – 1950
"Gwas ffyddlon Duw" - arweinydd ifanc y diwygiad crefyddol mawr ym 1904.
Fe ddisgrifiodd y gwleidydd David Lloyd George y mudiad fel un oedd yn "ysgwyd bywyd Cymreig megis Daeargryn" - cymaint oedd grym y diwygiad crefyddol rhwng 1904 a 1905. Canolbwynt y cyfan oll oedd y carismatig Evan Roberts a"i wên yn llawn ysbrydoliaeth ddwyfol.
Cafodd ei eni yng Nghasllwchwr ger Llanelli, a bu"n gweithio fel glöwr a gof cyn mynychu dosbarthiadau diwinyddol yng Nghastell Newydd Emlyn. Wedi i law yr Ysbryd Glân ei "gyffwrdd", rhoddodd y gorau i"w astudiaethau a dychwelodd gartref i daenu"r efengyl ymhlith ei gyd-Gymry.
Yn fuan iawn, roedd pobl yn heidio ato o bob cwr, ac am rannu yn y cyffro oedd wedi cael ei greu gan y gŵr ifanc hynod hwn. Fe ymddangosodd ei wyneb ar gardiau post ac fe gyhoeddwyd adroddiadau helaeth am ei gyfarfodydd yn y papurau newydd. Roedd y mudiad i"w weld ledled Cymru.
Un a gafodd ei feithrin yn nhraddodiad y Methodistiaid Calfinaidd oedd Roberts, ond nid oedd yn weinidog nac yn bregethwr chwaith. Byddai"n arwain ei gynulleidfa trwy weddi a thystiolaeth, a nodweddid ei gyfarfodydd gan emosiwn a defosiwn tanbaid. Roedd ei ddilynwyr yn ei ystyried fel llais yr Ysbryd Glân, a byddai ei gyfarfodydd weithiau yn parhau hyd at ddeg awr, ac yn gorffen ambell dro yn oriau mân y bore.
Yn ôl adroddiadau"r cyfnod, effeithiwyd ar batrwm byw"r gymdeithas. Cefnwyd ar y tafarndai, y theatrau cerdd a hyd yn oed y clybiau rygbi, wrth i bobl dyrru yn eu miloedd i fod yn rhan o"r diwygiad mawr. Dirwest, astudiaethau Beiblaidd a chanu emynau oedd y drefn.
Bu"r diwygiad yn gyfrifol am gynnydd aruthrol yn aelodaeth nifer o grwpiau anghydffurfiol. Roedd tua hanner poblogaeth Cymru yn mynychu"r capeli yn gyson yn ystod y blynyddoedd cyn ac union wedi"r diwygiad.
Ond, oherwydd blinder, encilio o"r llwyfan cyhoeddus oedd hanes Evan Roberts, gan droi"n fwyfwy at fywyd o weddi breifat. Bu farw"n ddisylw yng Nghaerdydd, a"r holl atgofion am ei ddiwygiad mawr wedi pylu"n llwyr.
Wedi iddi fod yn un o"r gwledydd mwyaf crefyddol yn Ewrop ar ddechrau"r ugeinfed ganrif trodd Cymru yn un o"r gwledydd lleiaf crefyddol erbyn diwedd y ganrif honno.
