Evan  [Ieuan Fardd] Evans

89. Ieuan Brydydd Hir

Meddylwyr (57 o bleidleisiau)

1731 – 1788

Ysgolhaig blaenaf y 18fed Ganrif a ddaeth o hyd i farddoniaeth Gymraeg ryfeddol y Gododdin o"r 6ed Ganrif.

Ganed yr ysgolhaig ym mhlwyf Lledrod, yng Ngheredigion. Bedyddiwyd ef yn Evan Evans ac aeth i Ysgol Ystradmeurig, cyn mynd i Goleg Merton, Rhydychen. Urddwyd ef yn offeiriad pan oedd yn 24 oed, ac am yr ugain mlynedd nesaf bu"n gurad mewn plwyfi yng Nghymru a Lloegr.

Oherwydd ei benderfyniad i hyrwyddo ac i ddwyn i"r amlwg gyfoeth dysg a diwylliant Cymraeg, bu aml i wrthdaro rhyngddo ag Eglwys Loegr. Beirniadodd yn llym agwedd Seisnig esgobion Cymru ar y pryd gan eu galw yr "Esgyb-Eingl". Nid yw"n syndod na chafodd ei ddyrchafu gan yr Eglwys.

Wedi blynyddoedd maith o gopïo ac ymgyfarwyddo â chynnwys yr hen lawysgrifau nad oedd yn hawdd cael gafael arnynt, pan oedd yn 33 oed, cyhoeddodd y gyfrol bwysig Some Specimens of the Antient Welsh Bard, a oedd yn cynnwys am y tro cyntaf erioed ddetholiad o farddoniaeth gynnar Gymraeg, gan gynnwys Y Gododdin gan Aneirin - oedd yn dyddio"n ôl i"r 6ed Ganrif, pan roedd y Cymry yn byw yn yr hyn a elwir heddiw yn Ddeheudir yr Alban, a Gogledd Lloegr.

Gododdin oedd yr enw ar yr ardal rhwng yr afonydd Tyne a Forth heddiw a Chaereiddin (Caeredin) oedd ei phrifddinas.

Mae"r gerdd hir o wahanol fesurau cain yn sôn am ddewrder anhygoel milwyr y Gododdin a aeth i frwydr yn erbyn y Saeson. Colli yn drychinebus fu eu hanes: "Gwyr a aeth Gatraeth oedd ffraeth eu llu;/Glasfedd eu hancwyn, a gwenwyn fu."

Yng nghyfnod Ieuan Brydydd Hir, barnwyd bod llenyddiaeth Gymraeg mor hen â chlasurol â llenyddiaeth Roeg a Rhufain - a bod y Gododdin yn epig megis y Iliad.

Bu"n rhaid aros am ganrif arall, a sefydlu Prifysgol Cymru i ganfod rhywun oedd â chystal gwybodaeth a dealltwriaeth o Hen Farddoniaeth Gymraeg ag a feddai Ieuan Brydydd Hir.

Eich sylwadau chi

Gwr talentog mewn cynifer o feysydd – gwr gwirioneddol wych.

Fe’i urddwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Anglicanaidd, treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yng Nghaer lle y dylanwadodd ar filoedd.

Heb os, bardd mwyaf amryddawn y 19eg ganrif.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru