Ernest Jones

96. Ernest Jones

Meddylwyr (54 o bleidleisiau)

1879 – 1958

Seiciatrydd a boblogeiddiodd ddadansoddiad Freudaidd ym Mhrydain a"r Unol Daleithiau

Faint o bobl niwrotig Efrog Newydd, tebyg i"r rhai sydd i"w gweld yn ffilmiau Woody Allen, fyddai"n ymwybodol o"r ddyled sydd arnynt i"r gŵr o Dre-gŵyr, oedd yn gyfrifol am wneud "dadansoddi" a"r "shrink" yn rhan annatod o"u bywydau?

Gwrthododd yr Ernest Jones ifanc le ym Mhrifysgol Caergrawnt er mwyn astudio meddygaeth yng Nghaerdydd. Ar ôl pasio"n feddyg dechreuodd ganolbwyntio ar seiciatreg, oedd yn ddisgyblaeth newydd. Digon elfennol, anwaraidd hyd yn oed, oedd yr agwedd at afiechyd meddwl cyn hyn.

Ym 1908, fe drefnodd Jones, ar y cyd â Carl Gustav Jung, y gynhadledd seiciatryddol gyntaf yn y byd, a hynny yn Salzburg. Roedd yn ddigwyddiad o bwys aruthrol, wrth i holl arbenigwyr blaenllaw Ewrop ymgynnull gerbron Sigmund Freud - tad Dadansoddiad Seicolegol.

Cymaint oedd ei ddylanwad, fel bod Jones wedi mynd ati i ddysgu Almaeneg er mwyn deall syniadau Freud yn well. Trwy ddarlithio ac ysgrifennu papurau fe ledaenodd efengyl Freud ym Mhrydain a Gogledd America. Ef oedd y cyntaf i sylwi ar yr anghytuno rhwng Jung a Freud - a fyddai, yn y pen draw, yn hollti"r mudiad seicdreiddiad yn ddau.

Yn ystod yr 1930au, wrth i"r Natsïaid feddiannu Awstria, bu"n rhaid i"r Iddew Freud ffoi o"i gartref yn Vienna. Cafodd gymorth gan Jones i symud i Loegr i fyw. Jones oedd cofiannydd swyddogol Freud, a chyhoeddwyd dwy gyfrol glodwiw ganddo. Roedd yn amharod i neb arall gael gafael ar bapurau"r gŵr mawr, tan iddo ef ei hun farw.

Roedd Freud a"i ddadansoddi arloesol ymhlith datblygiadau deallusol pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Mae eu dylanwad, er efallai iddo gilio rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diweddar, wedi ymestyn y tu hwnt i"r ystafell ymgynghori, i fyd busnes, llywodraeth a"r cyfryngau.

Mae"r eiriadureg Freudaidd yn cynnwys termau megis "ego" a "libido", sydd wedi datblygu i fod yn idiomau poblogaidd, y mae pobl yn eu defnyddio i ddeall eu hunain a"u gweithredoedd. Cyfraniad Jones i"r math hwn o ddeall oedd "rhesymoli" - y term seicolegol sy"n disgrifio esgusodion pobl dros bethau y maent yn teimlo"n anghyfforddus neu"n euog amdanynt.

Eich sylwadau chi

Tad dadansoddiad seicolegol Prydain.

Cafodd ddylanwad enfawr ar genedlaethau o ddadansoddwyr ac artistiaid.

Roedd yn arloeswr ar y mudiad dadansoddiad seicolegol, cyfieithydd, bywgraffydd ac apolegwr ar gyfer Freud. Beth bynnag yw gwerth theori Freud, gosododd waith Jones, wrth ei gyflwyno i’r UDA, y sylfeini a fyddai’n ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid creadigol.

Ychwanegwch eich sylwadau

© 2003/2004. Cedwir pob hawl Culturenet Cymru