
65. Elizabeth Phillips Hughes
Meddylwyr (110 o bleidleisiau)
1851 – 1925
Sylfaenydd ysbrydoledig un o golegau Prifysgol Caergrawnt, ac hyrwyddwraig bwysig hyfforddiant i ddarpar athrawon
Roedd Elizabeth Phillips Hughes wedi sylwi ar yr hyn oedd yn nodweddu'r Cymry brwd - sef y duedd i ddechrau gweithio ar gynllun, a fyddai wedyn yn cael ei gwblhau gan Saeson mwy dyfal. O'i safbwynt hi ei hun, o leiaf, roedd y stereoteip yn gywir. Wedi iddi sefydlu'r coleg hyfforddi athrawon cyntaf i fenywod ym Mhrydain, ymddeolodd yn 47 oed.
Serch hynny, ni aeth yr hyn a adawodd ar ei hôl yn angof. Erbyn 1984, enwyd Coleg Hyfforddi Annibynnol i Fenywod, Caergrawnt, yr oedd hi wedi'i sefydlu, yn Neuadd Hughes - oedd yn cael ei gydnabod yn llwyr fel un o golegau Prifysgol Caergrawnt. Mae hanes swyddogol y coleg yn talu teyrnged hael i gyfraniad allweddol Hughes, yn ymarferol, ac fel rhywun oedd yn ysbrydoliaeth yn ystod y dyddiau cynnar.
Roedd 'Bessie' Hughes yn perthyn i deulu Methodistaidd oedd â mymryn o waed Iddewig, yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n ymddangos nad oedd hi'n cael darllen llyfrau tan ei bod yn ddeg oed - rhywbeth sydd o bosibl yn esbonio ei brwdfrydedd diweddarach dros addysg.
Mae cryn ddirgelwch yngly^n â'r cyfnod pan oedd Elizabeth yn oedolyn ifanc. Wedi mynychu ysgol breifat yn Taunton yng Ngwlad yr Haf, daeth i'r amlwg nesaf fel athrawes yng Ngholeg Merched Cheltenham. Yn ddiweddarach, enillodd radd yng Nghaergrawnt, y fenyw gyntaf i ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Mynychodd Hughes Goleg Newnham ar ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd y coleg yn esiampl o'r ehangu oedd yn digwydd ym maes addysg i ferched y byddai hi yn fuan yn rhan bwysig ohono. Wrth ymateb i'r angen i baratoi graddedigion benywaidd ar gyfer gyrfa fel athrawesau, cafodd Elizabeth Hughes ei dyrchafu yn Brifathrawes y Coleg Hyfforddi Athrawon newydd yng Nghaergrawnt ym 1884.
Wrth i enw da'r coleg dyfu, symudodd i adeiladau sylweddol newydd ym 1895. Ar ddiwrnod agor y coleg, nododd yr Ardalydd Ripon fod mwy yn cael ei wneud dros hyfforddi merched i fod yn athrawon na'u cymheiriaid gwrywaidd.
Ym 1899, gadawodd Elizabeth Hughes Gaergrawnt am dymor sabothol. Ni ddychwelodd i'w swydd. Yn hytrach, symudodd yn ôl i Gymru lle treuliodd weddill ei bywyd yn gweithio'n brysur. Bu'n goruchwylio ysbyty yn ystod y Rhyfel y Byd Cyntaf a bu'n ymgyrchu dros addysg uwchradd i bawb.
Roedd derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1920 yn brofiad gwefreiddiol iddi. Ceir atgof ohoni yn hanes Neuadd Hughes sy'n dweud : "ni wnaeth golli ar un cyfle i ganu clodydd y Cymry ym maes addysg."
