
39. Dr Richard Price
Meddylwyr (171 o bleidleisiau)
1723 – 1791
Gweinidog gyda"r Undodiaid, athronydd a"r cyntaf i Ddatgan ei fod yn "ddinesydd y Byd"
Pan gododd gwladfäwyr America yn erbyn Coron Lloegr, eu cefnogwr mwyaf llafar ym Mhrydain oedd y gweinidog ymneilltuol o Langeinor, ger Penybont ar Ogwr a gyhoeddodd ei fod yn "ddinesydd y Byd".
Roedd Richard Price yn radical yn ei ddaliadau crefyddol a gwleidyddol. Gyda"i allu i argyhoeddi, gan apelio at yr emosiwn yn ogystal â"r deallusol, daeth i"r amlwg fel pregethwr yng nghapeli Anghydffurfiol mwyaf radical de Cymru a Llundain.
Dadleuodd mai ymddiriedaeth y bobl oedd yn rhoi"r grym i lywodraethau - ac nad oeddent yn lladmeryddion awdurdod dwyfol. Roedd yn taeru mai dim ond Brenhinoedd Lloegr oedd â"r hawl gyfreithiol i deyrnasu, am eu bod yn cael caniatâd y bobl i wneud hynny o dan y Mesur Iawnderau, 1688. Yn eu brwydrau eu hunain, dim ond mynnu yr un hawliau oedd chwyldrowyr Ffrainc ac America.
Ym 1789, wrth i gwymp y Bastille nodi buddugoliaeth chwyldro Ffrainc, cyflwynodd Price bregeth yn dwyn y teitl On Love of Country a daniodd ddadl enwog.
Cafwyd ymateb Edmund Burke yn ei Reflections of the French Revolution. Gan wfftio Price, a"i gyd radicaliaid, a"u galw yn "the hopping insects of the hour", rhybuddiodd mai colli gwaed ac anarchiaeth fyddai canlyniad rhoi"r gorau i frenhiniaeth.
Enwocach fyth oedd The Rights of Man, gwaith Tom Paine yn ateb Burke ac yn cytuno â safbwynt Price. Dadleuodd dros Weriniaeth Brydeinig, rhoi"r bleidlais i bob oedolyn, gwladwriaeth les sylfaenol, a threthu blaengar.
Yn y degawdau a ddilynodd, creodd Prydain lwybr rhwng y ddwy athroniaeth: cadw"r frenhiniaeth, ond hefyd symud yn raddol tuag at ddemocratiaeth seneddol.
Dair blynedd wedi ei bregeth fawr, bu farw Price. I nodi hynny, cynhaliodd Ffrainc ddiwrnod o alaru cenedlaethol.
Yn ei Hanes Cymru, mae John Davies yn rhoi disgrifiad syml o Price fel "Y meddyliwr mwyaf gwreiddiol a fagodd Cymru erioed".
