
56. Dic Penderyn (Richard Lewis)
Arweinwyr (136 o bleidleisiau)
1808 – 1831
Arwr y werin bobl a gafodd ei ddienyddio yn dilyn Gwrthryfel Merthyr ym 1831
Am dros wythnos yn ystod haf 1831, fe gollodd yr awdurdodau reolaeth ar Ferthyr Tudful. Roedd y dref yn ferw o aflonyddwch gwleidyddol, ac roedd y newyddion fod y meistr haearn, William Crawshay, yn bwriadu gostwng cyflogau ei weithwyr yn ddigon i danio fflamau gwrthryfel.
Anfonwyd milwyr yr "Argyll and Sutherland Highlanders" i ostegu"r gwrthryfel. Mewn cythrwfl o flaen Gwesty"r Castell, saethwyd tua ugain o aelodau"r dorf yn farw.
Ynghyd â Gwrthryfel Casnewydd, wyth mlynedd yn ddiweddarach, dyma"r digwyddiad mwyaf treisgar a welwyd ar dir Prydain. Ac mae"n debyg mai hwn oedd y tro cyntaf i faner goch gael ei chwifio fel symbol o rym y gweithwyr.
Yn sgil y cythrwfl, cafodd glöwr 23 mlwydd oed o"r enw Richard Lewis ei arestio a"i garcharu. Roedd Dic Penderyn, fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn dod o Aberafan yn wreiddiol ac roedd yn un o"r dynion a heidiodd i Ferthyr i chwilio am waith.
Cafodd Dic ei gyhuddo o glwyfo Donald Black, un o"r milwyr Albanaidd. Digon gwan oedd y dystiolaeth yn ei erbyn, ac fe fethodd Black ei hun ag adnabod y sawl a ymosododd arno. Serch hynny, cafodd Dic Penderyn ei ddedfrydu i farwolaeth yn yr achos llys yng Nghaerdydd.
Mae haneswyr wedi dadlau fod yr awdurdodau yn gofidio am rym posibl undebau llafur newydd ardaloedd diwydiannol Cymru. Yn weithiwr deallus, di-flewyn-ar-dafod, roedd Dic Penderyn yn barod iawn i ddatgan ei farn, ac mae"n bosib ei fod yn cael ei amau o fod yn un o arweinwyr yr undeb. Er bod 28 o bobl wedi cael eu harestio, ef oedd yr unig un a ddedfrydwyd i farwolaeth.
Er i sawl Cymro amlwg bledio dros einioes Dic Penderyn, nid oedd yr Ysgrifennydd Cartref, Arglwydd Melbourne, am ddangos unrhyw drugaredd.
Aeth miloedd o bobl i hebrwng ei arch o Gaerdydd yn ôl i"w gartref yn Aberafan. Yn fwriadol neu trwy flerwch fe grëwyd merthyr.
