
47. Dewi Sant
Meddylwyr (158 o bleidleisiau)
circa 5th Century –
Nawddsant Cymru, dywedir mai ef fabwysiadodd y genhinen fel y symbol cenedlaethol.
Mae"r chwedl liwgar a dyfodd drwy"r canrifoedd ar ôl ei farw yn gwneud iawn am y prinder tystiolaeth hanesyddol ddilys am fywyd Dewi Sant.
Rydym yn gwybod cymaint â hyn am Dewi, y person go iawn: cafodd ei eni yn Henfynyw yng Ngheredigion. Credir iddo dderbyn ei addysg gan Sant Illtud yn Llanilltud Fawr. Daeth yn ffigwr flaenllaw yn yr Eglwys Geltaidd, a sefydlodd fynachdy ym Menevia yn Sir Benfro - Tyddewi erbyn heddiw.
Mae"r digwyddiad enwocaf, sef y wyrth yn Llanddewi Brefi - lle y dywedir i Dewi wneud i"r tir dan ei draed godi er mwyn i"r dyrfa gael ei glywed - yn cael ei ddisgrifio gan Rhygyfarch, mynach a oedd yn ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar ddeg.
Yn ôl Rhygyfarch, roedd Dewi wedi adfer golwg ei diwtor Sant Paulinus, cyn cychwyn ar ei daith genhadu ymhlith y Brythoniaid. Mae Rhygyfarch hefyd yn honni i Dewi sefydlu mynachdai yng Nghaerfaddon, Lanllieni (Leominster) ac Ynys Wydrin (Glastonbury), yn ogystal â mynd i Jerwsalem lle y cafodd ei urddo"n esgob.
Honnir i Dewi hefyd oroesi ymgais i"w wenwyno ar ôl i Sant Scythin
groesi"r môr o Iwerddon ar gefn march hud. Bendithiodd Scythin y bara oedd wedi ei wenwyno a"i fwyta heb ddrwg effaith.
Mae adroddiad dychmygol Rhygyfarch yn cael ei weld fel ymgais wleidyddol i gadw"r Eglwys yng Nghymru yn rhydd rhag dylanwadau Caergaint. Er hynny, mae"r tyndra yma yn dangos gwraidd un o"r pethau mwyaf diddorol a adawodd ar ei ôl:
Yn ôl y sôn, dywedodd Dewi wrth y milwyr Cymreig am wisgo cenhinen er mwyn adnabod ei gilydd mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid. O hynny ymlaen cafodd y genhinen ei mabwysiadu fel symbol o Gymreictod. Gan fod y blodyn "daffodil" yn cael ei alw yn Genhinen Pedr, awgrymir mai dryswch garddwrol sydd i"w feio bod hwnnw hefyd wedi dod yn symbol cenedlaethol.
