
8. David Lloyd George
Arweinwyr (1627 o bleidleisiau)
1863 – 1945
Diwygiwr ac arweinydd pwysig adeg y rhyfel. Lloyd George yw"r unig Gymro i fod yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig
Roedd esgyniad Lloyd George i fawredd yn un o hanesion mwyaf nodedig yn hanes gwleidyddiaeth Prydain. Roedd yn anghydffurfiwr Cymraeg ei iaith a oresgynnodd rwystrau dosbarth cymdeithasol, crefydd a iaith i ddominyddu gwleidyddiaeth y cyfnod.
Dechreuodd ei yrfa fel twrnai ifanc yng Nghricieth lle y daeth i"r amlwg fel ymgyrchydd huawdl dros y tlawd. Roedd wedi gwneud digon o enw iddo"i hun yn lleol iddo gael ei ddewis yn ymgeisydd seneddol dros y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Caernarfon. Yn 27 oed aeth i"r Senedd.
Yn San Steffan, daeth i"r amlwg fel dadleuwr dros Gymru a hefyd fel gwrthwynebydd diflewyn ar dafod i Ryfel y Böer. Denodd anghymeradwyaeth y sefydliad drwy ymgyrchu yn erbyn deddfau oedd yn gorfodi anghydffurfwyr i gyfrannu at gostau ysgolion Anglicanaidd.
Gosododd lywodraethau Rhyddfrydol ar ddechrau"r ugeinfed ganrif y seiliau i"r hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn "Wladwriaeth Les". Pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys, cyflwynodd Lloyd George Bensiwn i"r Henoed ac Yswiriant Gwladol wrth iddo fynd i"r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol ac economaidd anferth y cyfnod.
Er mwyn talu am y diwygiadau hyn, cododd y trethi ar y cyfoethog, gan ddenu dirmyg Torïaid fel Rudyard Kipling a alwodd Lloyd George yn "Leidr Cymreig". Talodd y pwyth yn ôl drwy gwtogi ar bwerau Tŷ"r Arglwyddi lle"r oedd y Torïaid yn tra-arglwyddiaethu.
Er gwaethaf ei wrthwynebiad ar y dechrau i fynd i ryfel yn erbyn yr Almaen, roedd angen sgiliau trefnu Lloyd George fel Gweinidog Arfau. Wrth i golledion Prydain gynyddu, bu dymchwel llywodraeth Asquith yn fodd iddo ddod yn Brif Weinidog ym 1916.
Llywiodd Brydain at fuddugoliaeth ac fe arhosodd yn Brif Weinidog hyd 1921 er, yn eironig, fe gafodd ei ymdrechion i ddiwygio yn ddiweddarach eu llesteirio oherwydd bu"n rhaid iddo ddibynnu ar y Torïaid i gadw ei fwyafrif seneddol.
Bydd ei feirniaid yn cofio amdano am iddo werthu anrhydeddau i godi arian, ac am ei berthynas hirdymor y tu allan i"w briodas gyda"i ysgrifenyddes, Frances Stephenson.
Eto"i gyd, ychydig iawn o arweinwyr Prydain sydd wedi cael dylanwad mor ddwfn a parhaus â David Lloyd George.
