
88. David Edward Hughes
Arloeswyr (57 o bleidleisiau)
1831 – 1900
Dyfeisiwr a gyflwynodd y meicroffon i"r byd.
Gŵr o amryfal ddoniau ac o weledigaeth dechnegol anferthol, roedd dwy ddyfais bwysig David Edward Hughes yn ddatblygiad arwyddocaol ym maes trydaneg.
Yn fab i deulu cerddorol dawnus a hanai o"r Bala, treuliai ei rieni a"r plant hynaf ran helaeth o"u hamser yn teithio o gwmpas neuaddau cyngerdd Prydain. Felly, mae hanes yn cofnodi Llundain fel y man lle cafodd ei eni. Er bod un ymchwilydd o Gymro yn hawlio bod tystiolaeth yn awgrymu iddo gael ei eni mewn gwirionedd yng Nghorwen, yn Sir Ddinbych.
Pan roedd David yn saith oed, ymfudodd y teulu i America. Oherwydd ei fod mor alluog yn gerddorol, cafodd ei benodi"n athro mewn coleg yn Kentucky pan oedd yn 19 oed.
Yn ogystal â"i waith fel athro, roedd Hughes hefyd yn wyddonydd ac yn beiriannydd brwd a ddyfeisiodd beiriant i gymryd nodau cerddorol i lawr wrth eu bod yn cael eu chwarae. Roedd y nodau yn cael eu cofnodi ar allweddell fecanyddol a fyddai wedyn yn eu hanfon at ddyfais argraffu. Yn ddamweiniol, roedd wedi dyfeisio"r argraffydd telegraffig.
Rhoddwyd patent ar Beiriant Argraffu Hughes ym 1855. Daeth yn gyfarpar safonol i nifer o gwmnïau telegraff newydd oedd yn egino ledled y byd ac fe barhaodd i gael ei ddefnyddio hyd yr 1930au. Hwn oedd rhagflaenydd y telebrintiwr, y telecs ac i ryw raddau, y cyfrifiadur hyd yn oed.
Yn y cyfamser, roedd ansawdd gwael atgynhyrchiad llais yn amharu ar y systemau teliffon cynnar. Cafodd y broblem ei datrys gan Hughes ar ôl iddo sylwi bod cysylltiad llac cylched oedd yn cael ei yrru gan fatri ac wedi ei gysylltu â cheg y ffôn yn tueddu i atgynhyrchu"r synau a dderbyniai"r teclyn.
Meicroffon carbon Hughes oedd prototeip pob meicroffon a ddefnyddir heddiw. Roedd yr hyn a gyflawnodd yn orchestol, ond ni chafodd yr un ddimai goch amdano. Gan ei fod eisoes yn fwy na chysurus ei fyd, gwrthododd hawlfreinio"r ddyfais.
Efallai mai"r ffaith nad oedd yn ddyn ymwthgar sydd yn gyfrifol am y ffaith nad yw wedi cael clod am ei ran yn nyddiau cynnar radio. Ym 1879, llwyddodd i drosglwyddo signalau o bellter o sawl can medr, a hynny 16 blynedd cyn i Marconi gynnal ei arbrofion cyntaf. Nid credai Hughes fod gwerth nodi"r peth tan iddo gael ei gynnwys mewn erthygl mewn cylchgrawn ym 1899.
