
83. Dannie Abse
Pobl Greadigol (62 o bleidleisiau)
1923 –
Meddyg, bardd toreithiog, nofelydd a dramodydd.
Ganed Dannie Abse i"r hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel y teulu Iddewig mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Bu i"w frodyr hyn hefyd wneud eu marc yn y meysydd a ddewisont - Wilfred y seicolegydd a Leo, y cyfreithiwr a"r Aelod Seneddol Llafur. Ef fu"n gyfrifol am y Mesur Aelod Preifat a gyfreithlonodd wrywgydiaeth yng Nghymru a Lloegr.
Wrth edrych yn ôl, mae Dannie yn cofio Leo yn dod â chylchgronau gwleidyddol adref, yn cynnwys "cerddi, nid am lysiau"r llew, nid am yr ehedydd, ond am ryfel yn Sbaen, ac o ganlyniad, teimlais yr awydd i ysgrifennu cerddi gwleidyddol."
Cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth gyntaf Dannie, After Every Green Thing, ym 1948 pan oedd yn astudio meddygaeth. Aeth ymlaen i fod yn arbenigwr ar y frest, yn gweithio am nifer o flynyddoedd yn Llundain cyn ymddeol i Dde Cymru er mwyn canolbwyntio ar ei ysgrifennu.
Yn A Poet in the Family, dechreuodd yr hyn a ddatblygodd i fod yn gyfres o gyfrolau hunangofiannol yn dwyn i gof ei blentyndod yng Nghymru a bywyd y tu hwnt. Wedyn daeth There Was A Young Man from Cardiff, A Strong Dose of Myself a Goodbye, Twentieth Century.
Mae hefyd wedi cyhoeddi dwsin o gyfrolau o farddoniaeth, dwy ddrama a dwy nofel, gan gynnwys Ash on a Young Man"s Sleeve, yr enwocaf, o bosibl, o"i holl gynnyrch toreithiog.
Mae ei brofiadau personol yn amlwg yn ei weithiau i gyd ac mae ei brofiad fel meddyg yn rhoi iddo safbwynt anarferol fel bardd. Yn Carnal Knowledge, er enghraifft, mae ganddo ddisgrifiad byw o ffordd unigryw"r meddyg o edrych ar farwolaeth.
Yn y gerdd, mae"n cymharu ei law ef â chorff marw a ddyrannodd pan oedd yn fyfyriwr. O"r diwedd, ar ôl blynyddoedd maith, mae"n cydnabod y bydd ei law ef hefyd un diwrnod, mor farw â"r corff hwnnw, nad oedd yn gallu credu pan yn ifanc, ei fod wedi perthyn "i rywun oedd unwaith mor syfrdanol o fyw."
Mae gwleidyddiaeth yn thema arall sydd yn cael ei hailadrodd ganddo - yn enwedig yng nghyswllt ei grefydd Iddewig a hunllef yr Holocost. "Gwnaeth Auschwitz fi"n fwy o Iddew nag a wnaeth Moses erioed," meddai.
