
30. Dafydd ap Gwilym
Pobl Greadigol (281 o bleidleisiau)
1315/20 – 1350/70
Un o feirdd canoloesol pwysicaf Ewrop a ddaeth â chyffro i farddoniaeth Gymraeg.
Mae barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn llawn themâu fyddai"n gwneud i rai wrido o hyd wrth eu darllen. Mae ganddo er enghraifft Gywydd i"r Gal. Roedd yn chwa o awyr iach o"i gymharu â ffurfioldeb gwaith ei gyfoeswyr, a defnyddiai iaith bob dydd y bobl wrth ddelio â phynciau cyfarwydd - problemau a phleserau sylfaenol bywyd.
Yn ôl traddodiad, ym Mrogynin, Penrhyn-coch, rhyw bum milltir o Aberystwyth, y cafodd ei eni, ac ym Mynachlog Ystrad Fflur yng Ngheredigion y cafodd ei gladdu. Roedd yn perthyn i deulu bonheddig oedd am genedlaethau yn gefnogwyr pybyr i goron Lloegr.
Er bod Tywysog olaf annibynnol Cymru wedi marw ddeugain mlynedd cyn i Dafydd gael ei eni, gwyddai"n iawn am Gerdd Dafod "Beirdd y Tywysogion" a fyddai"n mynd o gwmpas y llysoedd yn canu mawl i"w noddwyr gan ddefnyddio mydrau a rheolau caeth a chywrain yn eu cerddi.
Yn y rhan fwyaf o gerddi Dafydd, ei gariad at ferch sy"n cael mynegiant, ac mae"n mentro eu serenadu hyd yn oed os ydynt yn briod ac fe geir ganddo aml i stori ddoniol am droeon trwstan
lle y bu"n rhaid iddo ddianc o grafangau"r gŵr.
Ac am Ferched Llanbadarn nad yw wedi llwyddo i hudo un ohonynt: Pla ar holl ferched y plwyf/Am na chefais drais drawsoed/Onaddun yr un erioed.
Mae gan Loegr ei Shakespeare. Roedd gan Gymru ddwy ganrif ynghynt ei Dafydd ap Gwilym ac mae"n dal ei dir o hyd ymhlith y beirdd mwyaf erioed yn Ewrop.
