
76. Colin Jackson CBE
Perfformwyr (77 o bleidleisiau)
1967 –
Athletwr sy"n dal record y byd, a llysgennad bythol siriol dros Gymru.
Nid oes yr un ddelwedd sy"n ailddiffinio hunaniaeth Gymreig yn yr 1990au mor bendant na"r Colin Jackson buddugoliaethus yn gwisgo"r Ddraig Goch ar ei war. Anghofiwch am Cŵl Cymru - dyma brawf byw bod Cymreictod yn gallu bod yn gynhwysol, yn aml-hiliol ac uwchlaw popeth, yn dra hunan-hyderus.
"Dw i"n caru"r ffaith mod i"n Gymro", meddai mewn cyfweliad yn 2002, "Mae"n rhan o"m hunaniaeth. Beth mae"n ei roi i mi? Fy natur hamddenol. Fy anian dawel-benderfynol." Os yw"r man lle cafodd ei eni wedi cyfrannu at ei lwyddiant, yna mae"n sicr ei fod wedi ad-dalu ei ddyled sawl gwaith drosodd.
Ganed Colin Jackson yng Nghaerdydd, a daeth ei ddawn anghyffredin mewn chwaraeon i"r amlwg yn Ysgol Uwchradd Llanedeyrn. Aeth ymlaen i ragori yn y math o gamp sy"n gofyn am ffitrwydd, cryfder, techneg a"r gallu i ganolbwyntio - i gyd wedi eu dwys gyfyngu i ychydig eiliadau o berfformiad ffrwydrol.
Y wobr oedd gyrfa hir ac ysblennydd â"i gwelodd yn ennill yr anrhydeddau rhyngwladol uchaf gyda chysondeb mecanyddol bron. Mae wedi ennill dau deitl Byd a Chymanwlad, tair pencampwriaeth Ewropeaidd yn ogystal â chyrraedd y brig ym mabolgampau dan-do y Byd ac Ewrop.
Ar ôl dod i"r amlwg fel un o"r neidwyr clwydi gorau ar ddiwedd yr 80au, roedd yn siomedig na chafodd fedal yn y gemau Olympaidd ym 1992. Ond hon oedd ei awr dduaf cyn i"r wawr dorri. Mae"r amser o 12.91 eiliad y cymerodd iddo redeg ei ras yn Stuttgart yn y flwyddyn ganlynol, yn dal yn record byd. Ef hefyd yw"r cyflymaf erioed dros 60 medr dan-do.
Mae"r pwysau sydd ar fabolgampwyr proffesiynol heddiw yn aruthrol, ond yng nghanol hyn, mae Colin Jackson yn un sy"n ymddangos fel petai"n mwynhau ei hun. Fe ddaliodd i wenu drwy"r cyfnodau gogoneddus, yn ogystal â"r amserau pan nad oedd ar ei orau neu pan oedd anaf yn cadw llwyddiant draw.
Nid oedd yn un o"r athletwyr hynny a adawodd y llwyfan unwaith eu bod wedi gweld eu dyddiau gorau. Roedd ei natur gystadleuol a"i optimistiaeth fywiog yn ei gadw i anelu at fwy o anrhydeddau pwysig nes iddo benderfynu rhoi"r gorau iddi yn 2002.
Erbyn hyn, mae"r gŵr deniadol a byrlymus hwn yn gweithio i"r cyfryngau, ac yn ymwneud â phrosiectau chwaraeon ac elusennol. Go brin y bydd Colin Jackson yn diflannu.
