
71. Cerys Matthews
Perfformwyr (88 o bleidleisiau)
1969 –
Cantores garismataidd a phrif leisydd y grŵp pop llwyddiannus Catatonia, Cerys oedd eicon y mudiad celf a cherddoriaeth ar ddiwedd y 90au a alwyd yn "Cŵl Cymru".
Fe ddaeth Cerys Mathews a Catatonia i"r amlwg fel rhan o sîn cerddoriaeth Gymraeg yng nghanol y 90au, ac mae ymhlith yr ychydig dethol o ferched Cymru sydd wedi gwneud eu marc ym myd cerddoriaeth gyfoes Prydain.
Yn enedigol o Gaerdydd, cafodd ei magu yn Abertawe a Sir Benfro, a bu"n gwarchod plant ac yn nyrs seiciatryddol cyn i berthynas gyda chyd-sefydlydd Catatonia danio ei gyrfa gerddorol.
Ei pherfformiadau byw cyntaf oedd canu ar strydoedd Caerdydd am geiniogau prin. Wedyn daeth Catatonia, ac ar ôl pedair blynedd o gymeradwyaeth gan y beirniaid, ond heb lwyddiant masnachol, lluchiwyd Catatonia i"r amlwg ym 1998 wrth adlewyrchu awyrgylch y cyfnod gyda"r senglau Mulder And Scully a Road Rage, oddi ar yr albwm International Velvet oedd yn llwyddiannus drwy Brydain.
Ar brif drac yr albwm, canodd Matthews: "Every day when I wake up, I thank the Lord I"m Welsh." Cafodd y geiriau eu mabwysiadu fel rhyw fath o anthem genedlaethol amgen ac fe gafodd y gân ei chanu gan y band yn seremoni agoriadol Cwpan Rygbi"r Byd ym 1999.
Lleiafrif bach a welai"r eironi yn y geiriau oedd yn nodweddiadol o"r awdur Mark Roberts, sydd efallai yn dangos mai cenedlaetholdeb hysteraidd difeddwl oedd yn bodoli ar y pryd.
Yn ôl traddodiad oesol, roedd byw yn llygaid y cyhoedd yn achosi problemau i"r band ac i Matthews ei hun. Fe ddaeth dechrau"r diwedd i"r grŵp pan aeth y gantores i glinig iechyd adnabyddus The Priory. Wrth i"r aelodau unigol geisio ailadeiladu eu gyrfaoedd, symudodd Matthews i Nashville yn Tenessee, crud cerddoriaeth gwlad.
Yno, ymunodd â nifer o gerddorion Americanaidd uchel eu parch er mwyn recordio ei record unigol gyntaf Cockahoop ac yn 2003 priododd y cynhyrchydd recordiau Seth Riddle. Bu ar daith yn y Deyrnas Unedig yn 2003 a hithau"n feichiog gyda"i phlentyn cyntaf Glenys Pearl Y-Felin.
O fod yn seren y byd pop yng ngwir ystyr y gair - un oedd yn gallu diddanu ar y llwyfan mwyaf - mae"n un o"r ychydig doeth i gymryd cam yn ôl, ar ôl sylweddoli beth yw peryglon cynhenid chwarae"r gêm enwogrwydd.
